Mwy o Newyddion
'Gwneud i Gymru gyfrif'
Gyda phythefnos i fynd cyn i’r bythau pleidleisio agor yn Etholiad y DG, pythefnos sydd gan bobl Cymru i gefnogi Tîm Cymru, a phleidleisio dros ddewis blaengar yn lle pleidiau Sefydliad San Steffan trwy ddewis Plaid Cymru.
Dywedodd arweinydd Plaid Cymru Leanne Wood heddiw y bydd cynrychiolaeth gref o ASau Plaid Cymru yn San Steffan yn sicrhau'r fargen orau bosib i Gymru, ac y byddant yn wastad yn gwneud yr hyn sydd orau i Gymru.
Dywedodd arweinydd Plaid Cymru Leanne Wood: “Yn ystod yr ymgyrch etholiadol hon, gwelsom egino math newydd o wleidyddiaeth yn yr ymysoedd hyn. Rydym wedi gweld grymoedd blaengar yn dod ynghyd ac yn cynnig i bobl Cymru, Lloegr a’r Alban ddewis arall yn lle hen sefydliad San Steffan.
“Bythefnos i heddiw, bydd gan bobl Cymru gyfle na fu erioed mo’i fath i fwrw ein pleidleisiau a gofalu y bydd gennym gynrychiolaeth gref o ASau Plaid Cymru yn San Steffan i gael y fargen orau i Gymru.
“Pan fo Plaid Cymru yn gryf, mae Cymru yn gryf.
“Os gwnewch i Gymru gyfrif am Fai 7fed, bydd Plaid Cymru yn gwneud yn siwr y bydd Cymru yn cyfrif bob un dydd wedi hynny."