Mwy o Newyddion
Gwasanaeth cymorth canser Sir Benfro yn ceisio gwirfoddolwyr
Mae Gwasanaeth Gwirfoddoli Bwrdd Iechyd Prifysgol Hywel Dda, ‘Gwirfoddoli dros Iechyd’, yn chwilio am wirfoddolwyr i gynorthwyo Gwasanaeth Gwybodaeth a Chymorth Canser Macmillan, i roi cymorth i bobl sy’n cael eu heffeithio gan ganser ac sy’n byw gyda chanser yn Sir Benfro.
Mae Cymorth Canser Macmillan a Bwrdd Iechyd Prifysgol Hywel Dda wedi cydweithio i ddatblygu gwasanaeth gwybodaeth a chymorth canser ar gyfer Sir Benfro, Sir Gaerfyrddin a Cheredigion er mwyn i bobl sy’n byw gyda chanser a’r bobl sy’n agos atynt gael mynediad hawdd ar yr wybodaeth a’r cymorth sydd ei angen arnynt, pan fyddant ei angen.
Mae Gwasanaeth Gwybodaeth a Chymorth Canser Macmillan wedi’i leoli ger mynedfa flaen Ysbyty Llwynhelyg ac mae ar agor rhwng 9.30am a 4pm. Gall gwirfoddolwyr ddewis oriau cyfleus i gynorthwyo’r gwasanaeth yn ystod oriau agor y gwasanaeth.
Os yw canser yn effeithio arnoch chi, mae cael y wybodaeth iawn, ar yr adeg iawn, yn hollbwysig. Gall eich helpu i wneud dewisiadau gwybodus am eich triniaeth a’ch gofal a chael gwared ar rywfaint o’r ofn. Mae’r gwasanaeth gwybodaeth a chymorth yn darparu’r wybodaeth ddiweddaraf am bob math o ganser i bobl sy’n cael eu heffeithio gan ganser. Gallwn ddarparu gwybodaeth am gymorth ymarferol, ariannol ac emosiynol fel nad ydynt yn gorfod wynebu canser ar eu pen eu hunain.
Mae Gwasanaeth Gwybodaeth a Chymorth Canser Macmillan yn darparu llyfrynnau, taflenni ac adnoddau eraill am ddim hefyd i bobl sy’n cael eu heffeithio gan ganser am y math o ganser a salwch sydd ganddynt. Gall y gwasanaeth gyfeirio unigolion at grwpiau cymorth a chynghorwyr hefyd i helpu pobl i gael y cymorth sydd ei angen arnynt yn ystod ac ar ôl triniaeth.
Drwy ymuno â’n tîm a gwirfoddoli gyda’r gwasanaeth, byddwch yn helpu i sicrhau nad oes neb yn eich cymuned yn wynebu canser ar eu pen eu hunain.
Dywed Anthony Lorton, Cydlynydd Gwybodaeth a Chymorth Canser Macmillan: “Mae darparu gwybodaeth a chymorth o ansawdd uchel yn hanfodol i helpu pobl sy’n cael eu heffeithio gan ganser ddeall a gwneud dewisiadau da am eu gofal a chefnogi’r rhai o’u cwmpas. Bydd gwirfoddoli gyda Gwasanaeth Gwybodaeth a Chymorth Canser Macmillan yn golygu ein bod yn gallu cyrraedd a chefnogi mwy o bobl a gwneud gwahaniaeth go iawn i’w bywydau.” (Anthony Lorton (Cydgysylltydd Gwasanaeth Gwybodaeth a Chymorth Canser Macmillan).
Am ragor o wybodaeth am wirfoddoli i gefnogi’r gwasanaeth gwybodaeth yn Sir Benfro, cysylltwch ag:
Anthony Lorton (Cydlynydd Gwybodaeth a Chymorth Canser Macmillan) - Ffôn: 01437 773859 - E-bost: Anthony.Lorton@wales.nhs.uk
David Fretwell (Gwirfoddoli dros Iechyd) - Ffôn: 01267 244344 - E-bost: david.fretwell@wales.nhs.uk