Mwy o Newyddion
Mynd â’r Gymraeg i Norwy
Ddiwedd mis Mawrth bu Ioan Talfryn, Prif Weithredwr Popeth Cymraeg, ar ymweliad â Norwy am wythnos i hyfforddi tiwtoriaid iaith ac i ymweld â dosbarthiadau Norwyeg i fewnfudwyr.
Roedd wedi cael ei wahodd yno gan Gymdeithas Dad-Awgrymeg Athrawon Norwyeg i hyfforddi tiwtoriaid a rhannu o'i brofiad dros y blynyddoedd fel athro iaith, yn enwedig fel athro iaith Dad-Awgrymeg.
Cafodd Ioan ei hyfforddi yn Awstria a Bwlgaria gan Dr Georgi Lozanov, creawdwr y dull ac mae wedi defnyddio'r dull gyda myfyrwyr Popeth Cymraeg ac ar y teledu ar raglenni Cariad @ Iaith a ddangosir ar S4C bob haf.
"Mae Awgrymeg (neu Ddad-Awgrymeg fel y'i gelwir hefyd) yn ddull hynod effeithiol ar gyfer dysgu ieithoedd ac mae wedi bod yn boblogaidd ac yn llwyddiannus iawn yma fel rhan o ddarpariaeth Popeth Cymraeg, ac yn Norwy hefyd ac mewn sawl rhan arall o'r byd."
Fel rhan o'r hyfforddiant cyflwynodd Ioan wers Gymraeg i'r athrawon iaith Norwyeg (gan gynnwys y gân am Lanfairpwllgwyngyllgogerychwyrndrobwllllantysiliogogogoch). Y flwyddyn nesaf, bydd athro Norwyeg yn ymweld â Popeth Cymraeg i arsylwi ar rai o'i dosbarthiadau Dad-Awgrymeg. Mae dau o athrawon eraill o Norwy wedi ymweld â Popeth Cymraeg o'r blaen a dyna paham y gwahoddwyd Ioan allan i Norwy eleni.
Llun: Y dysgwyr Norwyeg yn Oslo gyda'u tiwtor Astrid Raen a fu draw ar ymweliad â Popeth Cymraeg ychydig flynyddoedd yn ôl