Mwy o Newyddion

RSS Icon
23 Ebrill 2015

Canolfan iaith newydd ar gyfer Bae Colwyn

Mae Popeth Cymraeg, y sefydliad dysgu Cymraeg arloesol yng Ngogledd Ddwyrain Cymru, newydd agor canolfan iaith newydd yn 27 Rhodfa'r Tywysog, Bae Colwyn. Mae Popeth Cymraeg eisoes wedi agor dwy ganolfan yn Ninbych a Llanrwst ac ar hyn o bryd yn datblygu canolfan fawr ym Mhrestatyn.

Yn ôl Ioan Talfryn, Prif Weithredwr y sefydliad: "Rydym wedi bod yn chwilio am leoliad addas yn ardal Bae Colwyn ers nifer o flynyddoedd.

"Mae gennym lawer o ddosbarthiadau a myfyrwyr yn yr ardal hon a byddwn yn awr yn gallu canoli ein haddysgu yn yr adeilad newydd.

"Tan yn ddiweddar roedd ein dosbarthiadau wedi’u gwasgaru dros nifer o leoliadau, ond bydd cael canolfan iaith arbenigol yn hwb mawr i'n darpariaeth yn lleol. Bydd yn gweithredu fel canolbwynt ar gyfer dysgu Cymraeg o fewn y dref a'r cyffiniau.

"Rydym wedi cofrestru dau ddosbarth newydd yn ardal Bae Colwyn yr wythnos hon ac mae'r niferoedd uchel yn golygu bod yn rhaid i ni rannu un grŵp yn ddau."

Mae gan y ganolfan dri o ystafelloedd addysgu yn ogystal â chyfleusterau cegin. Mae’r ganolfan ar y llawr gwaelod, gan ei gwneud yn hygyrch i bawb.

Yn ôl Howard Edwards, Tiwtor-Drefnydd lleol Popeth Cymraeg: "Bydd y ganolfan yn rhoi llwyfan i ni allu gwasanaethu’n myfyrwyr yn ardal Bae Colwyn yn well. Ein nod yw cynnig ysgolion haf a chyrsiau bloc eraill yma, yn ogystal â'n cyrsiau wythnosol arferol. Rydym hefyd yn ganolog iawn ar gyfer busnesau lleol a mentrau cyhoeddus a phreifat."

I gael mwy o wybodaeth am Ysgolion Haf yn gyffredinol cysylltwch â Popeth Cymraeg ar 01745 812287 / gwwybod@popethccymraeg.com

Llun: Howard Edwards, Tiwtor-Drefnydd Sir Conwy a rhai o'r dysgwyr yn y ganolfan newydd

Rhannu |