Mwy o Newyddion

RSS Icon
20 Ebrill 2015

Rhys Meirion yn codi hwyliau 150 mlynedd ‘Mimosa’ yn Ninas Mawddwy!

Nos Sadwrn yr 2ail o Fai bydd Rhys Meirionyn canu yng Nghapel Ebeneser Dinas Mawddwy er mwyn cefnogi ymgyrch Harri Hughes 17 oed sydd wedi ei ddewis i gymryd rhan yn y Sioe gerdd ‘Mimosa’ drwy Urdd Gobaith Cymru.

Mae Harri ac ugain o bobl ifanc Cymru a Phatagonia yn perfformio sioe gerdd i ddathlu 150 mlynedd glaniad y Cymry yn y Wladfa ac angen codi bron i dair mil i gymryd rhan.

Mae Rhys Meirion y tenor byd enwog a cherddwr anhygoel sydd wedi codi miloedd i Ambiwlans Awyr Cymru gyda Cerddwn Ymlaen yn dod i Ddinas Mawddwy i gynnal cyngerdd sydd yn fenter Harri Hughes o’r pentref i godi nawdd iddo fedru cymryd rhan mewn sioe gerdd ‘Mimosa’ fydd yn cael ei chynnal yn Eisteddfod Meifod a Chapter Caerdydd cyn teithio i Batagonia mis Awst.

Meddai Harri: "Mae cael Rhys Meirion i Ddinas Mawddwy yn fraint mawr ac mae’n dipyn o her i gynnal achlysur mawreddog fel hyn, a fydd gobeithio yn un llwyddiannus yn ariannol gan fy mod yn ceisio codi gymaint o arian er mwyn cymryd rhan yn y Sioe Gerdd.

"Bydd yn brofiad anhygoel i mi a bydd mynd a’r sioe wedyn i Batagonia yn gyfle a phrofiad y byddaf yn ei thrysori am byth."

Yn ôl Rhys Meirion sydd a theulu yn dod o ardal Dinas: "Rwy’n falch iawn o gael cynorthwyo pobl ifanc fel Harri ar fenter fel hon ac mae’n gyfle gwych iddo ehangu ei orwelion, bydd yn daith llawn cyffro ac mae’n haeddu pob cefnogaeth i wireddu ei nod."

Yn cymryd rhan yn y cyngerdd bydd Parti Meibion Dyfi, Dyfan Parry Jones Penegoes, ac Elan Meirion sef merch Rhys ei hyn fydd hefyd yn cymryd rhan yn sioe gerdd ‘Mimosa’ gyda Harri ac meddai, "Bydd dod yn ôl i Ddinas Mawddwy hefyd yn brofiad i mi ac yn gyfle i’m merch Elan ddod i wybod mwy am yr ardal lle mae gen i deulu yn byw."

Mae tocynnau ar gael am £10 yn Hen Siop Dinas Mawddwy, sydd newydd ei hagor dros y Pasg fel Tŷ Te a Choffi a Galeri. Mae’r Hen Siop hefyd yn arddangos lluniau ffotograff Tom Griffiths Llwyngwril o’i luniau ‘Patagonia Y Cyswllt Cymreig’ sydd yn waith a gyflawnwyd wyth mlynedd yn ôl ac yn cael eu dangos eleni i gofio 150 mlynedd ers glaniad y Cymry ym Mhatagonia.

Bnawn dydd Sadwrn am 4 o’r gloch yr 2ail o Fai bydd Rhys Meirion yn llofnodi ei lyfr ‘Stopio’r byd am funud fach’ a’i gryno ddisgiau yn yr Hen Siop a bydd hyn yn gyfle i unrhyw un gael sgwrs gyda’r tenor enwog.

Bydd y cyngerdd yn dechrau am 7:30 yng Nghapel Ebeneser Dinas Mawddwy ar yr 2ail o Fai, gyda tocynnau yn £10 o Hen Siop Dinas Mawddwy. (01650 531221).

Rhannu |