Mwy o Newyddion
Enw newydd i Amgueddfa ac Oriel Gwynedd
Wrth i Amgueddfa ac Oriel Gwynedd ddechrau ar gyfnod newydd a chyffrous yn ei ddatblygiad a gyda gwaith yn symud yn ei flaen yn dda ar adnewyddu ei gartref newydd, mae’n amserol i gael enw newydd.
Dros y blynyddoedd, mae’r amgueddfa ac oriel wedi cael ei adnabod fel Amgueddfa Hynafiaethau Gogledd Cymru, Amgueddfa ac Oriel Bangor ac yn fwy diweddar Amgueddfa ac Oriel Gwynedd, Bangor. Mae’r rhan fwyaf o bobl yn ei alw’n un ai Amgueddfa Bangor neu Oriel Bangor, gan ddibynnu ar beth maent wedi dod i’w weld.
Ar ôl trafod gyda staff, Grwpiau Cyfeillion a sefydliadau cymheiriaid, Storiel fydd enw’r adeilad newydd.
Mae’r enw sydd yn cyfuno dau brif bwrpas yr amgueddfa a’r oriel; straeon y creiriau a ofelir amdanynt ac arddangosir a’r holl straeon sydd ganddynt i’w rhannu, yn ogystal â bod yn oriel yn arddangos celf hanesyddol a chyfoes. Mae’r enw yn gyfuniad o’r ddau brif bwrpas yma: ‘stori’ ac ‘oriel’, ond bydd yr Amgueddfa a’r Oriel yn parhau yn rhan allweddol o’r brandio.
Dywedodd y Cynghorydd Mandy Williams-Davies, Aelod Cabinet Economi Gwynedd sy’n arwain ar dreftadaeth a’r celfyddydau i’r Cyngor: “Mae hwn yn amser cyffrous iawn i’r prosiect yma, gyda gwaith ar yr adeilad newydd yn symud ymlaen yn dda. Dyna pam rydym yn awyddus i gael enw sydd yn hawdd i’w adnabod ac sydd yn gweithio ym Mangor ac ar draws y sir heb gael ei gyfyngu i un lle penodol, yn ogystal ag enw wedi ei wreiddio yn ei ystyr – yr iaith Gymraeg ac sy’n ysbrydoli, sy’n chwaraeus a hyblyg, fydd yn gallu denu sylw’n syml i’r mathau gwahanol o waith rydym yn ei wneud.”
Ychwanegodd Frances Llywellyn, Ysgrifennydd Anrhydeddus y Cyfeillion: “Bydd Cyfeillion Amgueddfa ac Oriel Gwynedd yn hynod falch i alw eu hunain yn ‘Cyfeillion Storiel’. Mae’n gyfuniad clyfar o eiriau sy’n pecynnu llawer o ystyron a chyfeirnod mewn un gair byr, a hawdd i’w ynganu. Credwn daw’n enw cofiadwy’n sydyn iawn.”
Mae elfen graffeg yr enw yn parhau i gael ei ddatblygu ond rhagwelir y bydd yr enw yn cael ei ddefnyddio i adlewyrchu arddangosfeydd a gweithgareddau ar draws y sir fel rhan o’i rwydwaith newydd o loerennau a gweithgareddau cymunedol, yn ogystal â phwrpas allweddol yr amgueddfa, oriel, siop a chaffi ym Mangor.
Meddai’r Athro Jerry Hunter ar ran Prifysgol Bangor: "Mae'n enw gwych sy'n awgrymu newydd-deb, cyffro, gwreiddioldeb a phosibiliadau di-ben-draw, ac felly mae'n berffaith ar gyfer y cyfnod newydd hwn yn hanes yr amgueddfa. Yn wir, gyda datblygiad Pontio dros y stryd a nifer o ddatblygiadau eraill ar gerdded ym Mangor, mae ymysg y pethau sy'n arwyddo dechreuad cyfnod cyffrous newydd yn hanes diwylliant gogledd-orllewin Cymru.”
Yn ogystal â’r arian gan Gyngor Gwynedd a Phrifysgol Bangor, mae cynllun adnewyddu’r amgueddfa a’r oriel wedi ei ariannu gan Gronfa Treftadaeth y Loteri, Cyngor Celfyddydau Cymru, Llywodraeth Cymru, Cyngor Dinas Bangor, Ymddiriedolaeth Wolfson, Ymddiriedolaeth Garfield Weston ac Ymddiriedolaeth y Teulu Ashley. Mae’r prosiect yn canolbwyntio ar bedwar prif beth: i symud i hen Blas yr Esgob Bangor, i ail-ddehongli arddangosfeydd yr amgueddfa, i wella gofal a mynediad i gasgliadau Prifysgol Bangor yn ogystal â gweithio gyda’r gymuned a grwpiau dysgu ar draws y sir. Mae hwn yn brosiect gwerth £2.4 miliwn gyda £1.4 miliwn yn dod o Gronfa Treftadaeth y Loteri.
Dywedodd Jennifer Stewart, Pennaeth Cronfa Treftadaeth y Loteri Cymru: “Mae hwn yn brosiect ardderchog sy’n cynnig amrediad o gyfleon i bobl ddysgu am a dod yn rhan o weithgareddau’r Amgueddfa a’r Oriel. Mae Cronfa Treftadaeth y Loteri wedi ymrwymo i gefnogi prosiectau sy’n agor ein treftadaeth i fyny i bobl leol ac ymwelwyr allu dysgu a mwynhau.”
Mae gwaith adeiladu yn bwrw ymlaen yn dda ar hen safle Neuadd y Dref ym Mangor, ac mae llawer o waith cynllunio eisoes wedi ei wneud gyda grwpiau cymunedol. Rhagwelir y bydd drysau’n agor i’r cyhoedd yn ystod tymor yr hydref 2015.
Am y wybodaeth ddiweddaraf am ddatblygiadau’r gwaith adeiladu a’r prosiect yn ei gyfanrwydd, gallwch ddilyn y blog ar: www.amgueddfagwyneddmuesum.org
LLUN: Esther Roberts, Rheolwr y prosiect; Y Cynghorydd Mandy Williams-Davies, Aelod Cabinet Cyngor Gwynedd; yr Athro Jerry Hunter o Brifysgol Bangor a Sioned Williams, Pennaeth Adran Economi a Chymuned Cyngor Gwynedd