Mwy o Newyddion

RSS Icon
20 Ebrill 2015

Gŵyl werin Calan Mai yn dychwelyd

WRTH i dymor y gwyliau cerddoriaeth agosáu, mae Canolfan Mileniwm Cymru yn dechrau’r tymor gyda Calan Mai, ei gŵyl werin flynyddol.  Am bedwar diwrnod, bydd y Ganolfan yn cynnig cerddoriaeth fyw gan rai o’r artistiaid gwerin gorau o Gymru a thu hwnt, sesiynau a dawnsio ar gyfer penwythnos gŵyl y banc rhwng 1 a 4 Mai.

Bydd y dathliadau yn dechrau ar y nos Wener (1 Mai) gyda sesiwn cerddoriaeth werin yn The Old Market Tavern yng Nghanol Dinas Caerdydd. Dewch â’ch offeryn, prynwch ddiod, eisteddwch yn ôl a mwynhewch y gerddoriaeth (am ddim ac yn agored i bawb).

Ddydd Sadwrn (2 Mai), bydd y llwyfan perfformiadau am ddim yn agor yng Nghanolfan Mileniwm Cymru ag artistiaid o Gymru, sef Gareth Bonello, Gwyneth Glyn, Richard James a’r Rag Foundation.  Gall teuluoedd roi cynnig ar wneud offeryn ac ymuno yn y Twmpath Dawns (fersiwn Cymru o’r Ceilidh Gwyddelig).

Un o’r uchafbwyntiau ddydd Sul (3 Mai) fydd y canwr gwerin o Batagonia René Griffiths sy’n canu cerddoriaeth gan ein cydwladwyr yn Ne America, gan ddathlu 150 o flynyddoedd ers i’r Cymry ymsefydlu ar draws yr Iwerydd. Yn ymuno â René, bydd Cowbois Rhos Botwnnog, Dylan Fowler, Edward Jay, Gwilym Bowen Rhys, Robin Huw Bowen a Triawd.

Yng nghanol penwythnos llawn o weithgareddau, gweithdai a pherfformiadau am ddim, cewch weld chwech o’r cerddorion gwerin ifanc gorau o Gymru a Lloegr yn dod at ei gilydd i archwilio a dathlu hanes a diwylliant cyffredin y ddwy genedl yn Dros y Ffin: Caneuon Gwerin Cymru a Lloegr (3 Mai) yn Neuadd Hoddinott y BBC. Dyma gomisiwn ar y cyd rhwng trac: Traddodiadau Cerdd Cymru a’r English Folk Dance and Song Society, wedi’i ariannu gan PRSf, bydd Dros y Ffin yn cynnwys artistiaid o Gymru, sef Elan Rhys (o Plu), Patrick Rimes (o Calan) a Georgia Ruth Williams ynghyd ag artistiaid addawol o Loegr, sef Archie Churchill-Moss, David Gibb a Lucy Ward. Bydd y chwe artist hyn yn cydweithio ar ddehongliadau newydd o gerddoriaeth draddodiadol, wedi’u cydblethu yn eu harddulliau unigryw eu hunain.

Yng Nghymru, caiff Calan Mai (neu Galan Haf) ei ddathlu ar ddiwrnod cyntaf mis Mai. Yn ôl y calendr Celtaidd, caiff ei ystyried fel dechrau’r haf ac yn hanesyddol, roedd yn gyfnod pwysig ar gyfer dathliadau a gwyliau yng Nghymru.

Cyn Calan Mai, bydd Canolfan Mileniwm Cymru yn croesawu Gwobrau Gwerin BBC Radio 2 i Gymru am y tro cyntaf erioed. I nodi’r digwyddiad arbennig hwn, mae’r Ganolfan wedi ymuno â chynllun Gorwelion y BBC i gyflwyno rhai o’r artistiaid mwyaf cyffrous yn y sîn gwerin yng Nghymru cyn ac ar ôl y gwobrau mawreddog.

Cynhelir Gŵyl Werin Calan Mai rhwng 1 a 4 Mai 2015, gyda digwyddiadau yn The Old Market Town, Neuadd Hoddinott y BBC a Chanolfan Mileniwm Cymru. Gallwch wylio Calan Mai yn fyw ar-lein rhwng 2 a 4 Mai drwy wmc.org.uk/gwylio.

Cynhelir Dros y Ffin: Caneuon Gwerin Cymru a Lloegr yn Neuadd Hoddinott y BBC, ddydd Sul 3 Mai 2015. Bydd Canolfan Mileniwm Cymru a chynllun Gorwelion y BBC yn cyflwyno rhaglen o berfformiadau am ddim ar Lwyfan Glanfa ar 22 Ebrill fel rhan o Wobrau Gwerin BBC Radio 2.

Llun: Gwyneth Glyn

Rhannu |