Mwy o Newyddion
Cymeradwyo £3m o gyllid ar gyfer Hosbis newydd yng Nghasnewydd
Cyhoeddodd Mark Drakeford, y Gweinidog Iechyd a Gwasanaethau Cymdeithasol, y bydd Llywodraeth Cymru yn buddsoddi £3m i ehangu'r gwasanaethau hosbis yng Nghasnewydd ar gyfer cleifion preswyl sy'n derfynol wael a'u teuluoedd.
Bydd Llywodraeth Cymru yn rhoi £3m tuag at gost cyfanswm o £5m ar gyfer hosbis arbenigol â 15 o welyau i gleifion preswyl. Bydd yr hosbis yn cael ei hadeiladu wrth ochr adeilad y brif hosbis yn Blackett Avenue yng Nghasnewydd.
Caiff ei chynnal gan Ofal Hosbis Dewi Sant, ar y cyd â Bwrdd Iechyd Prifysgol Aneurin Bevan a Chyngor Dinas Casnewydd.
Bydd yr uned newydd 15 gwely yn disodli'r uned lai â 10 gwely yn Hosbis St Anne, a agorodd yn 1979. Mae'r uned bresennol yn gofalu am dros 3,000 o gleifion a'u teuluoedd bob blwyddyn. Mae'r hosbis yn gofalu am gleifion sydd â chanser a chyflyrau eraill sy'n cyfyngu ar fywydau pobl, fel clefyd niwronau motor, a chamau terfynol methiant y galon.
Gofal Hosbis Dewi Sant sy'n prydlesu'r adeilad presennol (St Anne) tan 2018, pan fydd y brydles yn dod i ben.
Mae'r cyfleuster yn darparu gwasanaethau i dros 600,000 o bobl o Gasnewydd, Caerffili, Tor-faen, Sir Fynwy a Chanolbarth a De Powys.
Dywedodd Mark Drakeford: “Mae'r model y mae Gofal Hosbis Dewis Sant wedi'i ddatblygu ar gyfer gofal lliniarol yn enghraifft dda o sut i ddarparu gwasanaethau gofal hosbis o'r radd flaenaf.
“Rwy'n hynod o falch i gynnig y cymorth ariannol hwn i sicrhau bod Gofal Hosbis Dewi Sant yn gallu darparu'r gwasanaethau gofal lliniarol ychwanegol y mae fwyfwy o alw amdanynt yn ne-ddwyrain Cymru.
“Bydd yr hosbis newydd yn cynnig manteision sylweddol i gleifion a'u teuluoedd drwy ddisodli a gwella'r cyfleusterau presennol.
Dywedodd Emma Saysell, Prif Weithredwr Gofal Hosbis Dewi Sant: “Mae Gofal Hosbis Dewi Sant yn hynod o falch i dderbyn y newyddion am y cymorth ariannol o £3 miliwn gan Lywodraeth Cymru. Bydd yr hosbis newydd yn cynnig y gwasanaethau diweddaraf i gleifion a'u teuluoedd, ac yn sicrhau bod pobl yn gallu cael y gofal lliniarol a diwedd oes gorau, waeth beth fo'u diagnosis.
“Hoffen ni ddiolch yn ddiffuant i'r Gweinidog a Llywodraeth Cymru am fuddsoddi yn y gofal hanfodol bwysig hwn. Hoffen ni ddiolch hefyd i Gyngor Dinas Casnewydd am roi'r tir, ac i Fwrdd Iechyd Aneurin Bevan am eu holl gymorth. Mae Gofal Hosbis Dewi Sant wedi cydweithio â'r gymuned leol ac â gwirfoddolwyr am nifer o flynyddoedd, ac rydyn ni'n ddyledus iddyn nhw i gyd am barhau i gynnig eu cymorth. Bellach, rydyn ni'n edrych ymlaen at weithio gyda nhw i wireddu'r cyfle gwych hwn ar gyfer gofal hosbis.”
Dywedodd Judith Paget, Prif Weithredwr Bwrdd Iechyd Prifysgol Aneurin Bevan: “Rydyn ni'n croesawu'r cymorth ariannol hwn ar gyfer hosbis newydd a fydd yn cynnig gofal diwedd oes arbenigol i gleifion a'u teuluoedd o bob rhan o ardal y Bwrdd Iechyd.
“Rydyn ni'n edrych ymlaen at barhau i weithio ar y cyd â Gofal Hosbis Dewi Sant a Chyngor Dinas Casnewydd, a byddwn ni’n sicrhau bod cleifion yn parhau i gael y gofal lliniarol o'r ansawdd gorau y gallwn ni ei ddarparu.”