Mwy o Newyddion
Pum cynnig wedi cyrraedd y rhestr fer ar gyfer datblygu canol dinas Abertawe
Mae pum cynnig i adfywio dau safle allweddol yng nghanol dinas Abertawe wedi cyrraedd y rhestr fer.
Bydd Cyngor Abertawe nawr yn archwilio ymhellach y syniadau a gynigiwyd gan y cwmnïau sydd wedi cyrraedd y rhestr fer wrth i'r broses i benodi datblygwyr ar gyfer safleoedd Dewi Sant a'r Ganolfan Ddinesig barhau.
Rhoddwyd y ddau safle ar y farchnad ddiwedd mis Ionawr am y tro cyntaf. Cynigir cyrchfan hamdden a manwerthu ar gyfer safle Dewi Sant a fyddai'n cyfuno sgwâr cyhoeddus newydd â siopau, bwytai, sinema a datblygiad swyddfa newydd. Mae maes parcio aml-lawr yn cael ei gynnig ar gyfer safle maes parcio presennol yr LC a fyddai'n cynnwys cyfleoedd ar gyfer datblygiad masnachol.
Mae'r Ganolfan Ddinesig ar Heol Ystumllwynarth wedi cael ei hargymell fel y prif safle o statws blaenoriaeth cenedlaethol Cymreig mewn adroddiad a luniwyd ar gyfer bwrdd Dinas-ranbarth Bae Abertawe. Mae cynigion amlinellol ar gyfer y safle'n cynnwys datblygiadau twristiaeth nodedig a mannau cyhoeddus o safon. Mae Prifysgol Abertawe'n archwilio i'r potensial am greu canolfan ymchwil a datblygu ynni dŵr ar y safle a fyddai'n cynnwys acwariwm eiconig.
Meddai'r Cyng. Rob Stewart, Arweinydd Cyngor Abertawe, "Mae argaeledd y ddau safle hyn i'w hadfywio'n gyfle anferth ar gyfer canol dinas Abertawe. Yn ogystal â'n cynlluniau i weddnewid Ffordd y Brenin yn ardal gyflogaeth, bydd eu datblygu'n helpu i arwain at ganol dinas llewyrchus lle mae llawer mwy o bobl yn gweithio, yn byw, yn siopa ac yn cael hwyl. Bydd hyn wedyn yn helpu i ddenu mwy byth o fuddsoddiad yn y dyfodol a chryfhau rôl canol y ddinas fel sbardun allweddol o economi Dinas-ranbarth Bae Abertawe ar y cyfan.
"Roedd maint y diddordeb yn y ddau safle'n galonogol iawn ac rydym yn teimlo bod y rhestr fer yn cynrychioli cydbwysedd da rhwng timau datblygu rhanbarthol, cenedlaethol a rhyngwladol.
"Y cam nesaf yw cynnal trafodaethau manwl â'r holl gwmnïau sydd wedi cyrraedd y rhestr fer a gofyn iddyn nhw ddod yn ôl aton ni gyda chynlluniau mwy cynhwysfawr wrth i ni geisio penodi partneriaid datblygu erbyn dechrau'r flwyddyn nesaf.
"Rydyn ni hefyd wedi cael adborth cadarnhaol iawn yn ystod yr ymgynghoriad ar Fframwaith diwygiedig Strategol Canol y Ddinas - dogfen a fydd yn llywio adfywio dros y degawd nesaf."
Gofynnir i ddatblygwyr hefyd ystyried y ffordd orau o gysylltu'r ddinas â'r môr. Un opsiwn yw 'llwybr awyr' newydd i gerddwyr a beicwyr a fyddai'n croesi uwchben Heol Ystumllwynarth ac yn cysylltu safle Dewi Sant â'r glannau.
Cynhaliodd Cyngor Abertawe gyflwyniadau yn Llundain a Chymru'n gynharach eleni i godi proffil y cyfleoedd datblygu. Hefyd, hysbysebwyd y ddau safle'n helaeth yn y cyfryngau masnachu arbenigol.