Mwy o Newyddion

RSS Icon
16 Ebrill 2015

Atal traffig sy'n teithio i gyfeiriad y dwyrain ar Ffordd y Brenin

Mae Cabinet Cyngor Abertawe wedi cytuno ar fesurau dros dro i atal traffig rhag teithio i gyfeiriad y dwyrain ar Ffordd y Brenin.

Mae'r Cabinet wedi cytuno i gyflwyno'r hyn a elwir yn orchymyn rheoleiddio traffig arbrofol (TRO) sy'n golygu na fydd y gwasanaeth metro, bysus, coetsis eraill a thacsis yn gallu teithio mwyach ar hyd y ffordd honno.

Daw'r penderfyniad hwn ychydig ddiwrnodau ar ôl i'r cyngor gyflwyno bariau ar llain ganol Ffordd y Brenin fel rhan o amrywiaeth o newidiadau i'r ffordd.

Dywedodd Rob Stewart, Arweinydd y Cyngor, y byddai'r TRO yn cael ei gyflwyno cyn gynted â phosib.

Meddai: "Diben y TRO arbrofol yw gweld a monitro effaith dargyfeirio gwasanaethau metro, bws a thacsi ac ystyried pa newidiadau efallai y bydd angen eu gwneud i'r rhwydwaith ffyrdd pe baem yn cau Ffordd y Brenin i draffig sy'n teithio i'r dwyrain yn barhaol.

"Byddai cau Ffordd y Brenin i gyfeiriad y dwyrain yn golygu y bydd rhaid dargyfeirio bysus, coetsis a thacsis i lwybrau eraill."

Dywedodd y Cyng. Stewart hefyd y byddai'r bariau dros dro sydd ar Ffordd y Brenin ar hyn o bryd yn cael eu hestyn ar hyd Ffordd y Gorllewin yn gyfan i Heol Ystumllwynarth.

Awgrymodd hefyd y byddai'r gwaith i ailddatblygu canol y ddinas yn cael ei gyflymu. Meddai, "Wrth i ailddatblygu canol y ddinas gyflymu, bydd angen cynlluniau ffyrdd a llifoedd traffig newydd - byddwn yn ceisio sicrhau cyn lleied o anghyfleustra â phosib.

"Byddwn yn ceisio creu amgylchedd lle bydd cerddwyr yn ganolog i'n dinas newydd, a'i gwneud yn haws i bobl ddod i mewn, gadael a mynd o gwmpas yr ardal - mae cynllunio trefol llwyddiannus yn allweddol i lwyddiant ein dinas. Rydym yn gobeithio gwneud mwy o gyhoeddiadau cyn gynted â phosib."

Mae'r cynnig TRO yn un o'r mesurau diweddaraf a gyflwynwyd gan y cyngor ar Ffordd y Brenin ac mae'n dilyn cyfyngiadau cyflymder 20mya ac arwyddion i gerddwyr a osodwyd yno'r llynedd.

Mae trafodaethau gyda gweithredwyr bysus a masnachwyr ynglŷn â newid y trefniadau traffig ar Ffordd y Brenin eisoes wedi dechrau.

Rhannu |