Mwy o Newyddion
Goroesi’r gwres ar gyfer cwrw da
Mae ymchwilwyr yn Athrofa’r Gwyddorau Biolegol, Amgylcheddol a Gwledig ym Mhrifysgol Aberystwyth wedi bod yn cydweithio â gwyddonwyr o Dijon yn Ffrainc, i geisio datrys y broblem blas cas mewn cwrw.
Mae bragwyr cwrw yn wynebu problem anodd. Mae lefel uchel o weithgarwch yn y burum a ddefnyddir i gynhyrchu cwrw yn creu llawer o wres yn ystod y broses, gan godi'r tymheredd ar waelod y cafnau bragu.
Yn anffodus mae’r burum yn dioddef difrod i'w strwythur yn aml ar y tymheredd uchel hwnnw, ac mae hyn yn rhoi blas cas i’r cwrw.
Cyhoeddwyd papur ymchwil gan y gwyddonwyr yn y cyfnodolyn Environmental Microbiology - ‘Surviving the heat: Heterogeneity of response in Saccharomyces cerevisiae provides insight into thermal damage to the membrane.’ http://onlinelibrary.wiley.com/doi/10.1111/1462-2920.12866/abstract
Mae deall pam bod rhai celloedd burum yn goroesi mewn tymheredd ac eraill yn marw yn allweddol i wella prosesau megis bragu, a gyda dros 20 miliwn o beintiau o gwrw yn cael eu hyfed bob dydd yn y DG, mae hwn yn fater sy'n agos at galon y genedl.
Mae'r ymchwil yn dangos bod faint o fwyd sy’n cael ei roi i'r burum yn ystod amlygiad i dymereddau poeth yn allweddol i gadw'r burum yn iach.
Gan ddefnyddio dull gweithredu newydd ar gyfer y broblem yma -cytometreg llif - sy'n defnyddio technoleg laser i fesur celloedd yn awtomatig mewn hylif, dywedodd Dr Hazel Davey o IBERS: "Mae'r dechneg hon yn ein galluogi i astudio cannoedd o filoedd o gelloedd mewn ychydig eiliadau, gan ein galluogi i nodi celloedd burum a ddifrodwyd a gweithio allan pa amodau sydd yn gwella eu goroesiad.
"Rydym yn dangos y gall difrod gael ei wrthdroi weithiau o dan yr amodau cywir. Mae ein straen labordy o furum yn adfer yn dda wrth roi maetholion iddo yn ystod yr amodau poeth, tra bod burum y bragwyr yn dangos gwell adferiad yn absenoldeb y maetholion.”
Mae ymchwilwyr yn defnyddio straen o furum sydd wedi addasu'n dda i’r labordy fel arfer ac yn rhoi iddynt bopeth sydd ei angen ar gyfer twf, ond yn y bragdy fe ddewisir straen ar gyfer blas ac effeithlonrwydd.
Mae'r gwaith ymchwil hwn yn amlygu'r ymateb gwahanol mewn straen labordy a diwydiannol o furum i bwysau gan wres a'r angen i astudio’r ddau. Bydd myfyriwr PhD yn parhau gyda’r ymchwil hwn o fis Medi eleni.