Mwy o Newyddion

RSS Icon
16 Ebrill 2015

Gwyliau’r Pasg yn hwb enfawr i’r diwydiant twristiaeth

Mae ffigurau a gyhoeddwyd heddiw gan Lywodraeth Cymru yn dangos sut y bu gwyliau’r Pasg yn ddechrau ardderchog i dymor gwyliau’r diwydiant twristiaeth. 

O’r 400 o fusnesau a holwyd yn yr arolwg monitro Busnesau, dywedodd 82% iddynt weld fwy neu yr un faint  o ymwelwyr nag yn yr un cyfnod llynedd.  

Yn dilyn gwyliau’r Pasg, dywedodd 96% o fusnesau twristiaeth, canran uchel iawn, eu bod yn teimlo’n ffyddiog iawn neu’n weddol ffyddiog ynghylch y tymor i ddod.

Ymwelodd y Dirprwy Weinidog Diwylliant, Chwaraeon a Thwristiaeth, Ken Skates, â Llandudno heddiw a chwrdd â Barry Mortlock o Deithiau Alys yng Ngwlad Hud i glywed mwy am ei gynlluniau ar gyfer 150mlwyddiant cyhoeddi’r clasur, Alice in Wonderland. 

Mae Llandudno’n dathlu’r achlysur trwy gyfres o deithiau Alice yng Ngwlad Hud yn y dref er mwyn denu ymwelwyr i’r ardal.  Cyhoeddwyd hefyd mai 1 Mai fydd Diwrnod Alice. 

Cafodd Llandudno benwythnos prysur iawn dros y Pasg, meddai Geoff Lofthouse o’r Imperial Hotel: “Cawsom Basg gwych, ystafelloedd llawn a nifer dda yn galw o’r stryd. 

Ac i goroni’r cyfan, roedd gennym briodas ar ddydd Llun y Pasg.  Diolch i fisoedd Mawrth ac Ebrill ardderchog ar ôl Ionawr a Chwefror eithaf gwachul, rydym yn ôl ar y trywydd cywir.

Gan edrych ymhellach i’r dyfodol, mae archebion a digwyddiadau yn argoeli’n dda ond mae’r cyfan yn dibynnu ar y tywydd sy’n gallu cael cymaint ag 20% o effaith ar werthiant.”
 
Meddai’r Dirprwy Weinidog dros Ddiwylliant, Chwaraeon a Thwristiaeth, Ken Skates: “Mae’r  Pasg eleni wedi bod yn ddechrau da i dymor y diwydiant twristiaeth yng Nghymru ac mae pawb yn hyderus ynghylch gweddill y tymor. 

"Mae’r diwydiant mewn sefyllfa gref a bydd gweithgareddau Croeso Cymru yn parhau i roi Cymru ym mlaen meddyliau pobl ein marchnadoedd targed wrth iddyn nhw drefnu’u gwyliau ar gyfer y misoedd i ddod.

"“Dengys  y ffigurau diweddaraf bod yr ymgyrch ‘Does unman yn debyg i gartref’ yn esgor ar ganlyniadau da a’i bod wedi sbarduno £238 miliwn yn ychwanegol o wariant yn economi Cymru.

"Gwelwyd 26% o gynnydd yn nifer y defnyddwyr unigryw â’r wefan visitwales.com  yn ystod 2014 o’i gymharu â 2013 ac mae gan Croeso Cymru hanner miliwn o ddilynwyr ar y cyfryngau cymdeithasol.”

Mae’r ffigurau Defnydd Ystafelloedd Gwestai dros 2014 yn gyfan yn dangos cynnydd o hyd at 3 pwynt canrannol (i 64%) o’u cymharu â 2013 (61%).  Mae’r ffigurau ar gyfer dau fis cyntaf 2015 hefyd yn dangos tuedd am i fyny, gyda chynnydd o un pwynt canrannol ers y llynedd.

Mae Arolwg Ymweliadau Un-dydd Prydain Fawr yn dangos y bu 90 miliwn o ymweliadau un-dydd gan drigolion o Brydain â chyrchfannau yng Nghymru yn Ionawr-Rhagfyr 2014, gan sbarduno gwariant o £2,677 miliwn.

Mae nifer y tripiau i fyny 1 y cant o’i gymharu â 2013.  Mae ymweliadau un-dydd yn argoeli’n dda hefyd ar ddechrau 2015 gyda niferoedd cyn uched ag oeddynt yn 2014 a gwariant ar i fyny ers llynedd.

Caiff ffigurau blwyddyn gyfan 2014 Arolwg Twristiaeth Prydain Fawr, sy’n cynnwys ymweliadau tros nos, eu cyhoeddi ar 12 Mai.

Llun: Ken Skates

Rhannu |