Mwy o Newyddion
Herio Miliband i wrthod toriadau'r Ceidwadwyr
Mae Plaid Cymru heddiw (dydd Iau) wedi herio Llafur i roi'r gorau i'w ymrwymiad i doriadau'r Ceidwadwyr.
Mae Plaid Cymru wedi nodi y byddai hyn yn angenrheidiol er mwyn sicrhau cefnogaeth y pleidiau gwrth-lymder a sicrhau'r fargen orau posib i Gymru a gweddill y DG.
Mae'r polau'n dangos nad yw Llafur na'r Toriaid wedi gwneud digon i ennill mwyafrif yn Senedd San Steffan gyda rhai yn awgrymu adferiad yng nghefnogaeth y Toriaid.
Dywedodd Leanne Wood arweinydd Plaid Cymru: “Mae pobl wedi cael hen ddigon o bleidiau gwleidyddol yn taflu baw at ei gilydd yn ystod ymgyrchoedd etholiadol.
"Mae cymaint o bobl, mewn cymunedau yng Nghymru, yn dweud wrthyf eu bod yn ofni y byddai pum mlynedd arall o reolaeth Doriaidd yn ddrwg i fusnesau, yn niweidiol i wasanaethau cyhoeddus, ac yn groes i fuddiannau cenedlaethol Cymru.
"Os ceir senedd grog, bydd Plaid Cymru yn gweithio gyda phartneriaid blaengar yn yr SNP i ail-gydbwyso grym a chyfoeth draw oddi wrth Balas San Steffan ac i ddwylo pobl ar hyd a lled yr ynysoedd hyn.
"Rwy’n galw ar yr arweinydd Llafur i newid cyfeiriad - i Lafur roi'r gorau i'w hymrwymiad i doriadau'r Ceidwadwyr ac i weithio gyda'r pleidiau gwrth-lymder i roi terfyn ar reolaeth Doriaidd.
"Mae Plaid Cymru eisiau sicrhau cydraddoldeb cyllid a chyfrifoldeb i Gymru gyda’r Alban fel y gallwn gyflwyno gwasanaethau cyhoeddus parchus a buddsoddi yn ein heconomi.
"Rydym yn galw am ddiwedd ar lymder ac yn hytrach gydbwyso’r llyfrau trwy greu swyddi a buddsoddi mewn seilwaith.
"Mae’n bryd gwneud arfau dinistr yn rhan o hanes, ac ail-gyfeirio arian i wella safonau byw a gobeithion pobl.
"Oni fyddai’n well gan Lafur gytuno i gynlluniau mor synhwyrol yn hytrach na gwneud hon yn ddegawd o reolaeth Doriaidd niweidiol?"