Mwy o Newyddion

RSS Icon
16 Ebrill 2015

Only Boys Aloud yn Stadiwm Eirias

Bydd perfformiad cyntaf band bechgyn mwyaf y byd, Only Boys Aloud gyda bechgyn o ogledd Cymru, i’w weld ar lwyfan Access All Eirias yn Stadiwm Eirias ym Mae Colwyn ddydd Sul 7 Mehefin (tocynnau: 01492 872 000 www.accessalleirias.com).

Bydd Only Boys Aloud yn cynnwys y côr bechgyn llawn (13-19 oed) o'r de ynghyd â bechgyn a fydd yn cael eu recriwtio mewn ymarferion y mis yma yng Nghaergybi, Caernarfon, y Rhyl a Wrecsam. Llwyfan mawr Access All Eirias fydd lleoliad perfformiad byw cyntaf y côr Cymru gyfan, a bydd y bechgyn yn ymuno â rhestr eang o artistiaid, sy’n cynnwys The Vamps a’r Foxes.

Cyhoeddwyd yn ddiweddar y bydd llais lleol arall yn troedio’r llwyfan ar 7 Mehefin, sef Joe Woolford y rapiwr o Ruthun a serennodd yng nghystadleuaeth The Voice ar BBC1 eleni. Cafodd Joe ei hyfforddi gan Rita Ora ac fe gyrhaeddodd y rownd gynderfynol byw, lle bu iddo ganu Jealous gan Labrinth a pherfformio gyda Rita a Karis, cyd-gystadleuydd, gan ganu eu fersiwn nhw o Rude.

Dywedodd Joe wrth Emma Willis bod y profiad wedi bod yn "afreal", gan ychwanegu: “Mi nes i drio mynd ar y gyfres gyntaf ond ches i ddim hyd yn oed clyweliad.”

Dywedodd hyrwyddwr Access All Eirias, Pablo Janczur o hyrwyddwr cerddoriaeth annibynnol mwyaf Cymru, Orchard: “Rydym ni’n wrth ein bodd mai yn Access All Eirias fydd ymddangosiad byw cyntaf Only Boys Aloud Gogledd Cymru, a fydd yn cynyddu apêl y digwyddiad i deuluoedd ymhellach. Gydag artistiaid pop enwog, The Vamps, Foxes a Joe Woolford, mi fydd yn ddiwrnod allan gwych – a bydd mwy o artistiaid yn cael eu cyhoeddi gyda hyn.”

Eleni bydd Only Boys Aloud yn dathlu pum mlynedd ac ers y dyddiau cynnar cyntaf maen nhw wedi cael uchafbwyntiau anhygoel, gan gynnwys cyrraedd rownd derfynol Britain’s Got Talent, canu ym Mhalas Buckingham a recordio albwm a gyrhaeddodd y 40 uchaf yn siartiau’r Nadolig.

Meddai Cyfarwyddwr Cerdd Only Boys Aloud, Tim Rhys Evans: “Mae'n wych ein bod ni bellach yn gallu cynnwys bechgyn o ogledd Cymru yn Only Boys Aloud, ardal gyda threftadaeth gorawl gyfoethog. Rydym ni bob amser yn ceisio recriwtio bechgyn o bob cefndir a gyda’n polisi o beidio â chodi tâl a chlyweld, rydym ni’n gobeithio y bydd nifer o fechgyn eraill yn rhoi cynnig ar ganu corawl, a hynny efallai am y tro cyntaf. Mae Access All Eirias yn rhoi cyfle gwych i ni ddod â'r côr cyfan at ei gilydd am y tro cyntaf, ac rydym ni'n ysu am gael perfformio.”

Mae’r ymarferion ar gyfer gogledd Cymru yn dechrau 20 Ebrill, ac mae croeso i unrhyw fachgen rhwng 13 ac 19 oed ddod draw, beth bynnag eu profiad. Does dim clyweliadau a dim ffi i’w thalu am gymryd rhan - dewch draw a rhowch gynnig arni! Amseroedd ymarfer:

Wrecsam: Ystafell Bamford, Stadiwm Cae Ras Wrecsam, Dydd Mawrth 6.30-8.30

Y Rhyl: Theatr y Pafiliwn y Rhyl, Dydd Llun 6.30-8.30

Caernarfon: Clwb Rygbi Caernarfon, Dydd Llun 6.30-8.30

Caergybi: Clwb Pêl-droed Caergybi, Dydd Mawrth 6.30-8.30

Dywedodd Rheolwr Prosiect Only Boys Aloud Gogledd Cymru, Eleri Watkins: “Mae hwn yn gyfle gwych i fechgyn gogledd Cymru, a fydd yn newid eu bywydau ac yn ehangu eu gorwelion. Rydym ni wedi dod o hyd i dîm gwych o gapteiniaid a fydd yn arwain yr ymarferion lleol, ac rydym ni’n edrych ymlaen at droedio llwyfan yn Stadiwm Eirias ar 7 Mehefin.”

Bydd y prosiect yn cael ei lansio mewn steil nos Wener 17 Ebrill gyda digwyddiad yn Bounce Below ym Mlaenau Ffestiniog.

Cefnogir Access All Eirias gan Gyngor Bwrdeistref Sirol Conwy, Cyngor Tref Bae Colwyn a’r partneriaid yn y cyfryngau, Capital FM; Daily Post; a North Wales Weekly News. Mae Cymdeithas Adeiladu’r Principality hefyd yn cefnogi Access All Eirias am y bedwaredd flwyddyn yn olynol. Y Principality yw hefyd prif bartner cyllido Only Boys Aloud.

 Mae'r digwyddiad wedi ennill gwobrau cenedlaethol ar gyfer y trefnwyr, Orchard Entertainment a Chyngor Bwrdeistref Sirol Conwy, gwobr Partneriaeth Cynhyrchu’r Flwyddyn, yng Ngwobrau Cymdeithas Digwyddiadau Awyr Agored (NOEA) 2013, tra bo Tîm Cyfathrebu a Marchnata Conwy hefyd wedi cipio gwobr Trefnydd Digwyddiad y Flwyddyn. Mae Orchard hefyd wedi ennill Gwobr Hyrwyddwr Rhanbarthol y Flwyddyn yng Ngwobrau Busnes Cerddoriaeth Fyw y DU yn erbyn cystadleuaeth o bob cwr o'r DU.

Rhannu |