Mwy o Newyddion
Ymchwil yn canfod bod mwy o bobl ifanc dan 15 oed yn defnyddio e-sigaréts na thybaco
Mae ymchwil newydd a gyhoeddwyd yn BMJ Open yn dangos bod plant o oedran ysgol gynradd yng Nghymru yn fwy tebygol o ddefnyddio e-sigaréts na thybaco, a bod mwy o ddisgyblion ysgol yn defnyddio e-sigaréts yn lle tybaco hyd at 14-15 oed.
Mae chwech y cant o bobl ifanc 10-11 oed a 12% o bobl ifanc 11-16 oed wedi defnyddio e-sigarét o leiaf unwaith.
Dim ond ymysg disgyblion 15-16 oed y mae canran y rheini sydd wedi smygu yn fwy na chanran y rheini sydd wedi defnyddio e-sigarét.
Yn yr ymchwil a gynhaliwyd gan Brifysgol Caerdydd ar ran Llywodraeth Cymru, defnyddiwyd data o ddau arolwg cenedlaethol a gynhaliwyd yn 2013-14 ymysg disgyblion ysgol gynradd ac uwchradd.
Dyma’r canfyddiadau allweddol:
* mae plant ysgol gynradd yn fwy tebygol o ddefnyddio e-sigaréts (6%) na thybaco (2%)
* mae mwy o ddisgyblion yn dweud eu bod wedi defnyddio e-sigaréts na thybaco ym mhob grŵp oedran hyd at 14-15 oed
* ar y cyfan, dywedodd 12% o fyfyrwyr ysgol uwchradd eu bod wedi defnyddio e-sigaréts, heb unrhyw wahaniaeth rhwng bechgyn a merched nac yn ôl ethnigrwydd na chefndir cymdeithasol
* canran y rheini sydd ‘byth wedi smygu’ a ddywedodd eu bod wedi defnyddio e-sigarét oedd 5% yn 10-11 oed ac 8% yn 15-16 oed.
Dywedodd y Prif Swyddog Meddygol Dr Ruth Hussey: “Mae’n hanfodol ein bod yn helpu pobl ifanc yng Nghymru i fyw bywydau hir ac iach ac yn eu diogelu rhag y niwed y mae tybaco yn ei achosi. Rwy’n pryderu am y ffaith y gallai e-sigaréts normaleiddio smygu ymysg cenhedlaeth sydd wedi tyfu i fyny mewn cymdeithas sydd yn ddi-fwg gan fwyaf.
“Mae’r ymchwil yn dangos bod pobl ifanc sydd erioed wedi smygu yn defnyddio e-sigaréts. Mae’n rhaid i ni wneud popeth yn ein gallu i atal cenhedlaeth newydd rhag mynd yn gaeth i nicotin; mae’n hawdd iawn mynd yn gaeth iddo ac mae tystiolaeth yn dangos ei fod yn effeithio ar ddatblygiad yr ymennydd.
“Mae Papur Gwyn Iechyd y Cyhoedd yn gosod cynigion i gyfyngu ar y defnydd o e-sigaréts mewn mannau cyhoeddus yn unol â’r cyfyngiadau ar sigaréts arferol, fel ffordd o amddiffyn iechyd pobl.”