Mwy o Newyddion
Cyhoeddi Prif Gynghorydd Tân ac Achub newydd Cymru
MAE Leighton Andrews AC, y Gweinidog Gwasanaethau Cyhoeddus, wedi cyhoeddi mai Des Tidbury fydd Prif Gynghorydd Tân ac Achub nesaf Cymru.
Bydd Des yn cymryd y rôl pan fydd y deiliad presennol, Lee Howell, yn gadael y swydd yn yr haf. Mae gan Des brofiad o 35 mlynedd yn y Gwasanaeth Tân. Tan yn ddiweddar, ef oedd Prif Swyddog Tân a Chyfarwyddwr Diogelu ac Amddiffyn Cymunedol Cernyw.
Cyn hynny, roedd ganddo swyddi uwch yng Ngwasanaethau Tân ac Achub Wiltshire a Royal Berkshire, ac fe’i anrhydeddwyd â Medal Gwasanaeth Tân y Frenhines yn 2015.
Mae’r Prif Gynghorydd yn rhoi cyngor strategol proffesiynol i Lywodraeth Cymru ac yn gweithio gyda’r Gwasanaethau Tân ac Achub ledled Cymru i hyrwyddo arfer gorau ac annog gwelliant.
Dywedodd y Gweinidog: “Mae gan y Prif Gynghorydd rôl hanfodol o ran annog gwelliant yn y Gwasanaeth Tân. Mae Des Tidbury wedi ymdrin heriau anodd yn Lloegr ac rwy’n edrych ymlaen at weithio gyda fe. Hefyd, hoffwn i ddiolch i Lee Howell am ei waith eithriadol yn Brif Gynghorydd ers 2013. Rwy’n dymuno’n dda iddo.”