Mwy o Newyddion
Gŵyl undydd newydd i Ferthyr Tudful
Bydd canol Merthyr Tudful yn ferw byw ddydd Sadwrn 9 Mai gyda chyfleoedd i weld a chlywed gŵyl amrywiol newydd sbon yn cynnwys perfformiadau unigryw yng Nghymru, cyfleoedd i roi cynnig ar wneud theatr a NIA; cipolwg ar Feddyg Caneuon o Nashville ac "An Inspector Calls", un o ddramâu pwysicaf yr 20fed ganrif
Cafodd Gŵyl Agwedd ei henwi i adlewyrchu'r ffaith fod y reddf greadigol yn parhau heb ei phylu gan dreigl amser. Dywedodd Emma Robinson o Age Cymru "Roeddem eisiau dangos y gall pobl greu a chael eu hysbrydoli gan waith newydd mewn unrhyw ddisgyblaeth beth bynnag eu hoed. Mae pobl dros 50 oed mor debygol o fod yn cyhoeddi eu halbwm gorau ers talwm, ysgrifennu eu campwaith neu'n ail-werthuso ac adnewyddu'r hyn a wnaethant o'r blaen."
Ychwanegodd Kate Strudwick o Celf ar y Blaen: "Ein hysbrydoliaeth ar gyfer yr ŵyl hon yw gŵyl Latitude sydd mor glyfar yn cyflwyno ystod enfawr o gelfyddydau perfformio ar draws penwythnos. Mae Gŵyl Agwedd yn dechrau yma mewn modd mwy cynnil ond mae ein rhaglen gyntaf yn dangos nad dim ond artistiaid ifanc sy'n creu neu'n gwneud gwaith newydd a chyffrous."
Mae Gŵyl Agwedd yn hynod falch mai Peggy Seeger fydd prif artist y digwyddiad gyda'i hunig sioe yng Nghymru ar ei thaith 80fed pen-blwydd. Wedi'i hanfarwoli fel ysbrydoliaeth Ewan MacColl ar gyfer ei gampwaith "The First Time Ever I Saw Your Face", mae Peggy newydd gyhoeddi efallai'r albwm a gafodd y croeso cynhesaf gan y beirniaid yn ei gyrfa hir ac amrywiol a bydd yn ymddangos mewn cyngerdd gyda'i meibion Neil a Calum MacColl. Mae perfformwyr cerddorol eraill yn cynnwys Clive Gregson - yn wreiddiol yn brif awdur caneuon y band "Any Trouble" o Fanceinion, bu Clive yn gweithio yn Nashville am flynyddoedd lawer lle daeth yn uchel ei barch fel 'meddyg caneuon'. Bydd Mal Pope yn arwain sesiwn ar ysgrifennu caneuon gyda Clive yn ogystal ag yn cyfweld y ddeuawd o fam a merch Delyth ac Angharad Jenkins sy'n perfformio fel DnA. Hefyd yn perfformio bydd Railroad Bill - y band sy'n gwneud sgiffl y 1950au yn hanfodol a pherthnasol yn y 21ain Ganrif.
Bydd Dawns Tân yn cyflwyno eu gwaith newydd "Daear a Rhosod" a ysbrydolwyd gan ffotograff "Y Milwr a Syrthiodd" gan Robert Capa. Ar gyfer rhai sy'n dymuno rhoi cynnig ar symud i gerddoriaeth, bydd dwy sesiwn mynediad agored yn NIA a gyflwynir gan Fiona Winter.
Ar gyfer rhai sy'n hoff o'r theatr, mae'r ŵyl yn falch i ddod â'r cwmni uchel ei barch Tin Shed Theatre i Ferthyr am y tro cyntaf gyda'u dehongliad o "An Inspector Calls" J.B. Priestley - drama gyda chyfeiriadau ac sy'n codi materion sydd mor berthnasol heddiw â phan y'i perfformiwyd gyntaf. Yn ogystal, gyda chefnogaeth Tîm Theatr Genedlaethol Cymru, bydd tair sesiwn dan arweiniad Catherine Paskell ar "Anturiaethau mewn Gwneud Theatr" a chyfle i glywed gan y ddramodydd June Watkins, sy'n byw yn Nhrecelyn, ar sut y gwireddodd uchelgais gydol oes i ysgrifennu ar gyfer y llwyfan.
Caiff pobl eu hannog gan y dylunydd/gwneuthurydd Terry Chinn i ddod â chryno ddisgiau nad yw'r perchnogion eu heisiau mwyach a helpu i greu "Coeden Ganu" Merthyr yn Sgwâr Penderyn. Bydd hefyd lwyfan perfformio awyr agored yn Sgwâr Penderyn gyda pherfformiadau gan Railroad Bill, DnA a Clive Gregson.
Mae Gus Payne, Swyddog Datblygu Celfyddydau Merthyr Tudful, yn crynhoi cynnig Gŵyl Agwedd: "Cafodd yr ŵyl ei chreu gan bartneriaeth effeithiol rhwng Age Cymru, Celf ar y Blaen, gwasanaeth llyfrgelloedd a chelfyddydau Merthyr Tudful, Redhouse a Theatr Soar gyda chyllid gan Gyngor Celfyddydau Cymru. Mae llawer o ddigwyddiadau a gweithdai y gellir mynd iddynt gyda band arddwrn am ddim, perfformiadau a sgyrsiau yn cynnwys "An Inspector Calls" gyda band arddwrn £5 a mynediad i bob ardal gyda band arddwrn £15. Rwy'n falch iawn i nodi fod ein cyfeillion yn Theatr Genedlaethol Cymru yn cynnig tocyn i'w perfformiad nos Wener o 'Mother Courage' yng Nghlwb Llafur Merthyr i'r 15 cyntaf sy'n prynu ein band arddwrn £15. Dewch i Ferthyr ddydd Sadwrn 9 Mai a phrofi'r profiad!"
Mae'r Swyddfa Docynnau a gwefan holl ddigwyddiadau Gŵyl Agwedd yn y Redhouse, Merthyr Tudful :- www.redhousecymru.com 01685 38411
Llun: Delyth ac Angharad Jenkins