Mwy o Newyddion
Argyfwng ar y gorwel o ran recriwtio meddygon teulu, yn ôl ffigyrau newydd
Dywedodd Plaid Cymru fod y ffigyrau diweddaraf yn datgelu fod chwarter y meddygon teulu yng Nghymru yn agosau at oedran ymddeol.
Dengys y ffigyrau hefyd fod nifer y meddygon teulu yng Nghymru wedi gostwng o 20 dros y flwyddyn a aeth heibio, ar waethaf polisi Llywodraeth Lafur Cymru o symud y pwyslais ym maes gofalu am gleifion allan o ysbytai ac i wasanaethau dan arweiniad meddygon teulu yn y gymuned.
Mae Plaid Cymru wedi amlinellu eu cynlluniau i hyfforddi a recriwtio mil yn ychwanegol o feddygon i’r GIG Cymreig.
Yr wythnos hon, galwodd Coleg Brenhinol y Meddygon Teulu hefyd am recriwtio 500 yn ychwanegol o feddygon teulu yng Nghymru.
Dywedodd Gweinidog Iechyd cysgodol Plaid Cymru Elin Jones: “Dengys y ffigyrau hyn fod bron i chwarter y meddygon teulu yng Nghymru yn nesau at oedran ymddeol, gyda hyd at 50% o feddygon teulu mewn rhai ardaloedd dros 55 oed. Mae argyfwng recriwtio ar y gorwel, a rhaid i ni fynd i’r afael ag ef.
“Mae gan Blaid Cymru gynlluniau uchelgeisiol i gyflwyno mil o feddygon newydd i’r GIG Cymreig, fyddai’n dod â ni i fyny at gyfartaledd yr UE.
“Mae Coleg Brenhinol y Meddygon Teulu yn cydnabod yr angen am fwy o feddygon, ac y maent wedi galw yr wythnos hon am recriwtio 500 yn ychwanegol o feddygon teulu yng Nghymru er mwyn ateb y galwadau cynyddol ar y gwasanaeth.
“Ac eto, doedd cyhoeddiad diweddar y Llywodraeth Lafur am lefydd hyfforddi newydd i weithwyr iechyd proffesiynol ddim yn cynnwys yr un lle ychwanegol i feddygon. Rydym eisoes wedi gweld gwasanaethau yn cael eu colli mewn cymunedau lleol oherwydd prinder meddygon, ac oni fyddwn yn recriwtio mwy o feddygon, wnaiff y duedd hon ond gwaethygu.
“Bydd Plaid Cymru yn hyfforddi ac yn recriwtio mil o feddygon yn ychwanegol i’r GIG Cymreig, ac yn defnyddio cymhellion ariannol er mwyn sicrhau eu bod yn cael eu denu i ardaloedd lle mae eu hangen, fel y gall pawb yng Nghymru fynd at feddyg teulu pan gyfyd yr angen.”