Mwy o Newyddion
Mwy na 700 o bobl yn ymweld ag arddangosfa gyhoeddus Ffordd Osgoi Caernarfon i’r Bontnewydd
Daeth mwy na 700 o bobl i dair arddangosfa gyhoeddus a drefnwyd i gyflwyno gwybodaeth am Ffordd Osgoi Caernarfon i’r Bontnewydd, ar yr A487.
Hefyd, mae bron i 2,000 o bobl wedi ymweld â gwefan y prosiect. Yno ceir llawer iawn o wybodaeth a dogfennau cysylltiedig â’r cynllun, ynghyd â delweddau 3D yn dangos llwybr arfaethedig y ffordd newydd.
Roedd cyfle i’r cyhoedd siarad â swyddogion y cynllun yn yr arddangosfeydd, a gynhaliwyd dros dri diwrnod dilynol yng Nghaernarfon, Y Bontnewydd a Chaeathro.
Meddai Bryn Williams, Swyddog Cyswllt â’r Cyhoedd Ffordd Osgoi yr A487 Caernarfon i’r Bontnewydd: “Rydym yn hapus dros ben fod cymaint o bobl wedi galw heibio. Roedd yn braf cael cwrdd â thrigolion lleol i drafod y prosiect.
“Rydym wedi dechrau casglu ynghyd y sylwadau a’r safbwyntiau a fynegwyd dros y tri diwrnod a bwriadwn drefnu arddangosfa arall ym Mehefin.
“Gall pawb na lwyddodd i ddod i’r arddangosfeydd weld manylion y prosiect ar y wefan www.cbbypass.co.uk.”