Mwy o Newyddion

RSS Icon
26 Mawrth 2015

Y Dreth Gyngor yng Nghymru yn is o lawer na'r Dreth Gyngor yn Lloegr

Mae'r Dreth Gyngor yng Nghymru yn parhau i fod yn is o lawer nag ydyw yn Lloegr yn ôl ffigurau newydd a gyhoeddwyd heddiw .

Mae datganiad Llywodraeth Cymru yn dangos y bydd y dreth cyngor ar gyfer Band D yng Nghymru yn 2015-16 yn £1,328 ar gyfartaledd, sy'n is o lawer na'r cyfartaledd o £1,484 yn Lloegr.

Mae Llywodraeth Cymru hefyd wedi parhau i roi cymorth i'r 300,000 o aelwydydd sydd angen help i dalu eu biliau treth gyngor.

Bydd trethdalwyr yng Nghymru yn talu £52 y flwyddyn yn fwy o fis Ebrill ar gyfer y dreth gyngor Band D, sy'n gynnydd o 4.1%.

Dywedodd y Gweinidog Gwasanaethau Cyhoeddus, Leighton Andrews: “Rydyn ni wedi amddiffyn llywodraeth leol yng Nghymru rhag toriadau gwaethaf Llywodraeth San Steffan am y 5 mlynedd ddiwethaf.

“Er gwaetha'r pwysau ar wasanaethau cynghorau, mae'r Dreth Gyngor yng Nghymru yn parhau i fod £156 y flwyddyn yn is nag yn Lloegr ar gyfartaledd.”

Rhannu |