Mwy o Newyddion
Canfod trysor ger Wrecsam
Heddiw (26 Mawrth 2015) cadarnhawyd gan Grwner E.M. Gogledd Orllewin Cymru bod celc o ddau arteffact aur y credir eu bod yn dyddio o tua 1000-800 CC, neu 3,000-2,800 o flynyddoedd yn ôl, yn drysor.
Cafodd y celc o ddwy fodrwy aur fylchgrwn, neu fodrwyau cudyn, ei ddarganfod yng nghymuned yr Orsedd ym mis Mawrth 2013 gan Mr John Adamson.
Cafodd yr arteffactau eu canfod ychydig fetrau ar wahân wrth i Mr Adamson ddefnyddio datgelydd metel ar dir fferm. Cafodd yr arteffactau eu claddu yn wreiddiol gyda'i gilydd mewn un celc ond roeddent wedi cael eu symud a’u gwahanu, gan waith clirio ffos diweddar mae’n debyg.
Cafodd y darganfyddiad ei adrodd ar wahanol adegau i Vanessa Oakden ac Elizabeth Stewart, Swyddogion Cyswllt Darganfyddiadau ar gyfer y Cynllun Hynafiaethau Cludadwy yn Amgueddfeydd Cenedlaethol Lerpwl, cyn i archaeolegwyr yn Amgueddfa Cymru gael eu hysbysu.
Mae’r modrwyau wedi’u gwneud o eurddalen. Mae eu meintiau tebyg (y ddwy tua 3.5cm mewn diamedr ac yn pwyso 8-9g) a’r patrymau arnynt yn awgrymu iddynt gael eu gwisgo fel pâr. Mae’r wynebau crwn wedi’u haddurno’n gywrain gyda chyfres o endoriadau paralel a modrwyau cylchol, sy’n creu patrwm trawiadol. Siâp deugonigol oedd iddynt yn wreiddiol, ond maent wedi newid siâp o gael eu gwasgu dan y ddaear.
Byddai’r sawl oedd yn gwisgo’r modrwyau hyn yn berson cyfoethog o statws uchel mewn cymuned ar ddiwedd yr Oes Efydd. Fodd bynnag, nid yw archaeolegwyr yn siŵr os mai fel clustlysau neu i glymu cudynnau o wallt y caent eu defnyddio.
Mae nifer fawr o fodrwyau cudyn yn cael eu darganfod ym Mhrydain, Iwerddon a Ffrainc. Mae enghreifftiau tebyg wedi eu canfod ar draws gogledd a gorllewin Cymru, gogledd Lloegr a de’r Alban ac yn ne ddwyrain Lloegr.
Yng Nghymru, mae modrwyau cudyn wedi cael eu darganfod yn Gaerwen, Ynys Môn; Pen y Gogarth, Conwy; a Chasnewydd, Sir Benfro. Mae’r patrwm arfordirol hwn yn awgrymu cysylltiadau masnachu a chyfathrebu posibl rhwng cymunedau o Gymru ac Iwerddon ar ddiwedd yr Oes Efydd.
Mae dadansoddiad o’r aur gan Mary Davis, Prif Swyddog Gwasanaethau Dadansoddol, Amgueddfa Cymru, yn dangos bod y modrwyau wedi eu gwneud o aur o safon uchel gydag ychydig o arian a chopr hefyd ynddynt. Er nad yw’n bosibl nodi tarddiad yr aur yn bendant, mae’n bosibl mai aur o ffynhonnell lifwaddodol o Gymru neu Iwerddon ydyw.
Wedi cael eu prisio yn annibynnol, bydd y ddwy fodrwy yn cael eu caffael gan Amgueddfa Wrecsam, gan ddefnyddio arian o fenter Collecting Cultures Cronfa Dreftadaeth y Loteri.
Dywedodd Adam Gwilt, Prif Guradur Cynhanes Amgueddfa Cymru: “Roedd llawer o addurniadau aur yn cael eu defnyddio a’u claddu yng ngogledd-ddwyrain Cymru yn ystod yr Oes Efydd. Mae’r modrwyau bychan ond cywrain hyn yn ychwanegiad arall i’r patrwm sy’n awgrymu cysylltiad hir rhwng cymunedau o Iwerddon a rhannau eraill o Ewrop Môr Iwerydd.
“Rydym yn credu bod y gwrthrychau aur cyflawn a gwerthfawr hyn wedi eu claddu yn ofalus mewn lleoliadau ynysig fel rhoddion i’r duwiau, ar ddiwedd oes eu perchnogion efallai.”
Dywedodd Steve Grenter, Rheolwr Gwasanaethau Treftadaeth yn Amgueddfa Wrecsam: “Rydym wrth ein bodd yma yn Amgueddfa Wrecsam ein bod wedi caffael y modrwyau cudyn hyn ac rydym yn ddiolchgar i Amgueddfa Cymru a’r project Saving Treasures, Telling Stories am eu cymorth. Rydym yn edrych ymlaen at gael dangos y modrwyau yn yr amgueddfa ochr yn ochr â chelc yr Orsedd, gafodd ei ddarganfod yn 2002.”