Mwy o Newyddion

RSS Icon
26 Mawrth 2015

Hwb amserol ar gyfer sector allforio allweddol

Yr wythnos hon cyhoeddodd Rebecca Evans, y Dirprwy Weinidog dros Ffermio a Bwyd fuddsoddiad o dros £ 2.5 miliwn dros y ddwy flynedd nesaf i hybu marchnad allforio gynyddol y diwydiant bwyd a diod yng Nghymru. Bydd hyn yn galluogi Cymru i gael presenoldeb cryf mewn digwyddiadau masnach allweddol y DU ac yn rhyngwladol.

Wrth wneud y cyhoeddiad yn nigwyddiad masnach bwyd a diod rhyngwladol mwyaf y DU, IFE, pwysleisiodd y Dirprwy Weinidog fod datblygu'r sector yn nod allweddol i Lywodraeth Cymru,

"Yng Nghymru mae gennym ystod anhygoel o gynhyrchwyr bwyd a diod hynod arloesol, sy'n gwneud eu marc yn rhyngwladol a chaiff llawer o’n brandiau eu hadnabod yn fyd-eang a’u cydnabod fel cynhyrchion o safon uchel. Mae cyhoeddiad ariannu heddiw yn tanlinellu pwysigrwydd y sector i economi Cymru ac yn dangos ein cefnogaeth barhaus.
"Yn ein Cynllun Gweithredu rydym wedi nodi targedau uchelgeisiol, ond drwy weithio mewn partneriaeth â'r diwydiant, rydym yn hyderus y gallwn gwrdd a rhagori arnynt. Drwy sefydlu Bwrdd Bwyd a Diod gaiff ei arwain gan y diwydiant gallwn ddarparu cyfeiriad clir a ffocws ar gyfer y sector a bydd yn ein galluogi i nodi meysydd allweddol i'w datblygu. "

Mae 36 o gwmniau bwyd a diod o Gymru yn bresennol yn IFE, a phob un yn awyddus i ddenu partneriaid a chwsmeriaid newydd ac adeiladu ar drefniadau presennol.

Cyhoeddodd y Dirprwy Weinidog y byddai gwefan newydd hefyd yn cael ei lansio yn ystod yr wythnos, "Mae ein henw Bwyd a Diod Cymru yn bwysig iawn i ni a bydd y wefan newydd yn ein galluogi i’w ddatblygu ymhellach yn ogystal â bod yn ffynhonnell o wybodaeth a chefnogaeth ar gyfer y diwydiant, nid yn unig yng Nghymru, ond ar draws y DU ac yn rhyngwladol. Bydd yn ein cynorthwyo i arddangos llwyddiannau, ac y mae llawer ohonyn nhw, yn y gobaith y byddant yn ysbrydoli eraill i ddod yn rhan o sector sy'n gynyddol dyfu ac yn ffynnu."

Bydd y wefan newydd ar www.llyw.cymru/bwyadidocymru / www.gov.wales/foodanddrinkwales

Rhannu |