Mwy o Newyddion
£100bn o gyllideb Trident yn anghywir ar seiliau moesol, cymdeithasol ac economaidd
Mae Plaid Cymru wedi rhybuddio y byddai gwario £100bn ar adnewyddu arfau niwclear Trident yn anghywir ar seiliau moesol, cymdeithasol ac economaidd. Galwodd AC Plaid Cymru Rhodri Glyn Thomas hefyd ar Lywodraeth Cymru i wneud datganiad clir yn erbyn adleoli unrhyw arfau niwclear i Gymru.
Meddai: “Mewn cyfnod o lymder, o ddefnydd cynyddol o fanciau bwyd ac o doriadau i wasanaethau cyhoeddus, dyw hi ddim yn gwneud synnwyr o gwbl i Lywodraeth y DG wastraffu £100 biliwn o’u cyllideb ar adnewyddu arfau dinistr. Byddai’n well o lawer gwario’r £100 biliwn ar wasanaethau cyhoeddus ac ar roi terfyn ar agenda dinistriol llymder.
“Nid yw arfau ataliol niwclear yn effeithiol yn erbyn y prif fygythiad i ddiogelwch y DG a Chymru, sef terfysgaeth. Mae anghenion y DG o ran diogelwch wedi symud ymlaen ers y Rhyfel Oer, a symud ymlaen ddylem ninnau wneud hefyd.
“Mae angen i Lywodraeth Lafur Cymru wneud yn glir nad ydym fel cenedl yn cefnogi adleoli unrhyw arfau niwclear i Gymru. Nid ydym eisiau arfau dinistr ar ein glannau ac nid oes arnom mo’u hangen. Yr oedd y Prif Weinidog yn anghywir pan wahoddodd longau tanfor niwclear i ymgartrefu ar lannau’r Afon Cleddau.
“Bydd Plaid Cymru yn wastad yn sefyll yn erbyn arfau niwclear ac fe fyddwn yn ymgyrchu yn gyson i gadw Cymru’n rhydd o arfau marwol dinistr.”