Mwy o Newyddion
Darganfod stôr enfawr o dybaco yn Abertawe
Mae Safonau Masnach yn Abertawe wedi darganfod busnesau cynhyrchu tybaco ffug sylweddol sy'n gweithredu yn y ddinas.
Mae'r archwiliad gan Safonau Masnach Cyngor Abertawe wedi darganfod mwy na 170kg o dybaco ynghyd â'r holl gyfarpar pacio gan gynnwys cydau plastig a sticeri holograffig.
Credir bod gwerth y tybaco ffug â gwerth stryd dros £100,000.
Darganfu'r stôr gan swyddogion Safonau Masnach y cyngor mewn fflat ar Stryd Richardson yn ardal Sandfields y ddinas.
Yn ystod yr ymchwiliad gyda Heddlu De Cymru, daethpwyd o hyd i swm mawr o arian hefyd.
Meddai Mark Child, Aelod y Cabinet dros Les a Dinasoedd Iach, "Mae hwn yn ddarganfyddiad arwyddocaol ar gyfer y Tîm Safonau Masnach ac un sydd wedi arwain at swm mawr o dybaco ffug yn cael ei ddileu o strydoedd Abertawe.
"Mae gan y math hwn o weithgaredd gysylltiadau â throseddau cyfundrefnol ac rydym yn gwneud yr hyn gallwn mewn partneriaeth â'r heddlu i sicrhau bod hyn yn cael ei atal yn Abertawe.
"Rwy'n falch bod Safonau Masnach wedi bod yn llwyddiannus, a byddwn yn parhau i gymryd camau pendant i waredu tybaco anghyfreithlon o'r strydoedd."
Dylai aelodau'r cyhoedd â phryderon am werthu tybaco anghyfreithlon yn eu cymuned ddweud am y mater wrth wasanaeth Safonau Masnach Abertawe drwy ffonio 635600.