Mwy o Newyddion
Cyngor Gwynedd ar y brig
MAE’R adroddiad blynyddol diweddaraf gan y llywodraeth ar berfformiad cynghorau yn dangos fod Gwynedd yn parhau i wella a’i fod y cyngor a berfformiodd orau trwy Gymru ar draws yr amrediad o feysydd gwasanaethau a aseswyd.
Mae’r Adroddiad Perfformiad Gwasanaethau Awdurdod Lleol 2013-14 gan Lywodraeth Cymru yn dangos fod Cyngor Gwynedd wedi perfformio yn well na chyfartaledd Cymru mewn 63% o’r gwasanaethau a aseswyd, gyda 70% o’r gwasanaethau yn cynnal neu wella perfformiad o’i gymharu â’r flwyddyn flaenorol.
Dywedodd Arweinydd Cyngor Gwynedd, y Cynghorydd Dyfed Edwards: “Mae’r adroddiad annibynnol yma yn cadarnhau fod Cyngor Gwynedd wedi llwyddo i barhau i wella gwasanaethau ac i fod yn uchelgeisiol ar ran pobl Gwynedd yn ystod un o’r cynghorau mwyaf heriol yn hanes yr awdurdod.
“Gyda phob un o gynghorau Cymru yn gorfod ymdopi gyda phwysau ariannol anferthol, dylai ein staff ymroddedig, cynghorwyr a phartneriaid fod yn falch o’u hymroddiad amlwg i ddarparu’r gwasanaethau gorau posib i drigolion y sir.”
Ychwanegodd Prif Weithredwr y Cyngor, Dilwyn Williams: “Mae’r gwaith o wella gwasanaethau lleol allweddol yn sialens barhaus mewn unrhyw gyfnod, ond mae gwneud hynny mewn amser o lymder digynsail gwirioneddol yn gamp.
“Dros y blynyddoedd nesaf bydd yn rhaid i Wynedd wynebu heriau ariannol sylweddol tu hwnt lle na fydd gennym ddewis ond newid y ffordd y byddwn yn darparu gwasanaethau ac mewn rhai achosion yn torri gwasanaethau.
“Mae’r adroddiad annibynnol yma yn cadarnhau fod ein staff yn parhau i ddarparu dros bobl Gwynedd mewn cyfnod o newid parhaus a lle mae adnoddau yn gostwng. Mae hyn yn dangos ein bod mewn sefyllfa dda i ymdopi gyda’r storm ariannol y byddwn yn ei wynebu.”