Mwy o Newyddion

RSS Icon
23 Mawrth 2015

Canllawiau newydd ar gyfer trin pobl yng Nghymru sydd â phroblem iechyd meddwl ac yn camddefnyddio sylweddau

Mae Llywodraeth Cymru wedi cyhoeddi ar gyfer ymgynghoriad ganllawiau newydd sy’n gwneud yn siŵr fod pobl sydd â phroblem iechyd meddwl ac yn camddefnyddio sylweddau yn cael y driniaeth sydd ei hangen arnynt.
 
Mae problem iechyd meddwl a phroblem camddefnyddio sylweddau gyda’i gilydd - boed yn ddifrifol neu’n gymedrol - yn gallu achosi llawer o ofid i bobl a’u teuluoedd. Mae hefyd yn effeithio ar eu gallu i arwain bywyd boddhaol a llawn.

Yn yr achosion mwyaf eithafol, gall arwain at gynnydd mewn achosion o hunanladdiadau, gorddosio damweiniol all arwain at farwolaeth, sepsis neu glefyd yr afu/iau ac, mewn nifer fach iawn o achosion, gall fod yn ffactor sy’n arwain at bobl yn cyflawni troseddau difrifol.

Yn ôl y ffigurau diweddaraf mae hyd at dri o bob pedwar person sy’n camddefnyddio cyffuriau hefyd yn dioddef o broblem iechyd meddwl, ac mae dros hanner y bobl sydd â phroblem camddefnyddio sylweddau hefyd yn cael diagnosis o salwch iechyd meddwl ar ryw adeg yn ystod eu bywydau. Alcohol yw’r sylwedd mwyaf cyffredin sy’n cael ei gamddefnyddio, a phan fydd rhywun yn camddefnyddio cyffuriau, yn aml mae’n camddefnyddio alcohol hefyd.

Bydd y fframwaith gwasanaeth newydd yn cefnogi gweithwyr proffesiynol ym myd iechyd i weithio gyda’i gilydd i ymdrin ag anghenion pobl â phroblem iechyd meddwl a chamddefnyddio sylweddau. Bydd hefyd yn sicrhau bod gwasanaethau iechyd meddwl a chamddefnyddio sylweddau i oedolion, plant a phobl ifanc yn cael eu hintegreiddio.
 
Yn benodol, bydd y canllawiau newydd yn sicrhau bod gwasanaethau yn cyflawni’r canlynol:

* Atal ac ymyrryd yn gynnar – atal problemau rhag digwydd yn y lle cyntaf a, lle mae problemau eisoes yn bodoli, sicrhau eu bod yn cael eu canfod yn gynnar ac yn ymyrryd er mwyn atal y problemau rhag gwaethygu;

* Dull holistaidd o weithredu, sy’n canolbwyntio ar yr unigolyn – dylai gwasanaethau ymwneud ag anghenion yr unigolyn (gan gynnwys ei iaith), a chydnabod ei gryfderau a’i alluoedd unigol;

* Cyfathrebu da - er mwyn cael gofal a thriniaeth effeithlon, mae’n hanfodol bod asiantaethau’n cyfathrebu’n effeithiol â’i gilydd ac â defnyddwyr gwasanaeth a’u teuluoedd;

* Cyd-gynhyrchu – sicrhau bod defnyddwyr gwasanaeth a, lle bo’n briodol, eu teuluoedd, yn gysylltiedig â sefydlu’r canlyniadau i’w cyflawni drwy’r ymyriadau y cytunwyd arnynt;

* Gofal iechyd darbodus – ?darparu gofal sy’n seiliedig ar dystiolaeth, wedi’i deilwra at anghenion penodol yr unigolyn; osgoi triniaeth os gall achosi niwed a’i fod yn annhebygol o fod o fudd i’r defnyddiwr gwasanaeth neu’i fod yn wastraffus, a gwneud y gorau o’r defnydd o adnoddau drwy sicrhau bod y gweithlu’n gweithredu hyd eithaf eu gallu.

Mae Llywodraeth Cymru yn buddsoddi mwy na £580m yn y gwasanaethau iechyd meddwl yn 2015-16, a bydd tua £50m yn cael ei fuddsoddi mewn rhaglenni i fynd i’r afael â chamddefnyddio cyffuriau ac alcohol yn yr un cyfnod.
Dywedodd y Dirprwy Weinidog Iechyd Vaughan Gething:
 
“Yn aml mae gan bobl sydd â phroblem camddefnyddio sylweddau ac iechyd meddwl anghenion cymhleth ac mae angen dull cydgysylltiedig  o ymdrin â nhw gan ystod o wasanaethau gofal sylfaenol ac eilaidd, a hynny mewn lleoliadau statudol ac anstatudol.

“Mae Llywodraeth Cymru wedi ymrwymo’n gadarn i gynyddu’n sylweddol y cyfleoedd i bobl wella drwy hybu gwelliant yn y cydweithio rhwng gwasanaethau. Mae’n ofynnol bod gwasanaethau iechyd, gwasanaethau cymdeithasol, y trydydd sector a, lle bo’n briodol, asiantaethau cyfiawnder yn gweithio gyda defnyddwyr gwasanaeth a’u teuluoedd a gofalwyr i wella’r canlyniadau sy’n cael eu cyflawni drwy ymyriadau gan wasanaethau.”

Rhannu |