Mwy o Newyddion

RSS Icon
23 Mawrth 2015

Buddsoddiad o £2 filiwn yn nodi gwaith ehangu mawr gan Neem Biotech

Mae cwmni biotechnoleg o Singapôr sy'n arbenigo mewn echdynnu a gweithgynhyrchu elfennau bioactif naturiol o blanhigion i'w defnyddio mewn cynnyrch iechyd yn ehangu eu cwmni yng Nghymru ar raddfa eang, gyda buddsoddiad o £2 filiwn, a fydd yn treblu nifer y swyddi ac yn symud y busnes i'r lefel nesaf. 
 
Bydd y buddsoddiad, sy'n derbyn cyllid busnes o £225,000 gan Lywodraeth Cymru,  yn golygu y gall Neem Biotech symud o Barc Technoleg Llaneirwg i gyfleusterau mwy, pwrpasol yn Abertyleri.  Bydd nifer y staff yn cynyddu o wyth i 25 o fewn deunaw mis.
 
Bydd y cyllid hwn yn sicrhau bod yr ehangu yn digwydd yng Nghymru, gan olygu y bydd cynnydd mewn swyddi a thechnoleg yn y rhanbarthau, yn hytrach na'r dewis arall, sef symud i Malaysia. 
 
Disgrifiodd Dr Michael Graz y Rheolwr-gyfarwyddwr hyn fel pwynt hollbwysig yn nhwf a datblygiad y cwmni, gan alluogi'r busnes i symud eu cynhyrchu o lefel labordy i lefel beilot.  Mae hefyd yn caniatáu cynnal gwaith ar echdynnu cynnyrch i'w defnyddio mewn treialon clinigol yn ogsytal â defnyddio rhywfaint o'u gwaith ymchwil mewn treialon clinigol. 
 
Meddai Edwina Hart, Gweinidog yr Economi:  "Mae gwyddorau bywyd yn sector allweddol o fewn yr economi, gyda phosibiliadau am dwf uchel, ac mae Llywodraeth Cymru wedi ymrwymo i gefnogi'r twf hwn a'r datblygiadau o fewn y sector. 
 
“Rwy'n falch iawn fod Llywodraeth Cymru yn helpu Neem Biotech - sy'n gweithredu mewn maes hynod arbenigol - i ehangu, creu swyddi medrus iawn ac ehangu ei allu a'i gapasiti." 
 
Mae'r gwaith o osod offer yn eu safle newydd ym Mharc Busnes Roseheyworth yn Abertyleri wedi dechrau, er mwyn darparu cyfleusterau ac offer pwrpasol, gan alluogi'r cwmni i ehangu ei allu i gynnal gwaith ymchwil a datblygu ac i lansio cyfres o gynnyrch newydd.   
 
Mae gan y cwmni nifer o gynnhyrchion y mae eu Heiddo Deallusol wedi'u gwarchod ar y gweill hefyd, yn ogystal â rhagor o batentau ar ddulliau echdynnu, cyfansoddion a defnyddio cyfansoddion mewn ffyrdd newydd. 
 
Mae ei dreialon cyntaf yn yr Almaen i ddechrau eleni pan fydd yr echdyniadau o blanhigion yn cael eu defnyddio i drin heintiau ar yr ysgyfaint mewn cleifion ffeibrosis systig. 
 
Meddai Dr Graz: “Mae hwn yn gyfnod cyffrous i'n cwmni, gyda pherchennog newydd a buddsoddiad newydd sylweddol yn y busnes, a bydd y cymorth hael iawn gan Lywodraeth Cymru yn helpu i gyflymu'r twf hwn. 
 
 “Mae cymorth Llywodraeth Cymru i'r sector, drwy fentrau megis Cronfa Fuddsoddi Gwyddorau Bywyd Cymru, yn creu amgylchedd sy'n meithrin twf y sector yng Nghymru, sef y lle gorau yn Ewrop ar gyfer cwmnïau y diwydiant biodechnegol. 
 
“Roedd yn cadarnhau ein penderfyniad i aros yng Nghymru, tra bo'r cymorth gan Lywodraeth Cymru hefyd yn rhoi llawer o hyder i'n cwsmeriaid yn nyfodol hirdymor Neem yng Nghymru." 
 
Bydd staff yn cael eu recriwtioar gyfer y datblygiadau sydd ar y gweill yn y prosiectau, i reoli prosiectau a rheoli treialon clinigol, a chynnwys staff medrus ym maes cemeg a gwyddorau bywyd, rheolwyr prosiectau, gweinyddwyr a gweithgynhyrchwyr medrus.  
 

Llun: Edwina Hart

Rhannu |