Mwy o Newyddion

RSS Icon
23 Mawrth 2015

Y Cymry’n cadw’n dawel am dderbyn anrheg sâl!

Dim ond 5 y cant o bobl mewn perthynas yng Nghymru fyddai’n cyfaddef wrth eu partner nad ydynt yn hoffi anrheg maen nhw wedi ei brynu iddyn nhw, yn ôl adroddiad newydd gan Oxfam.

Mae chwarter o gyplau (26 y cant) wedi derbyn eitem ffasiwn nad oeddent yn eu hoffi gan eu partner, ac mae’r mwyafrif ohonyn nhw - tri chwarter ohonynt (74 y cant) - yn smalio eu hoffi rhag ofn iddyn nhw frifo teimladau eu cymar, meddai arolwg newydd gan Oxfam sydd wedi holi 2,000 o oedolion sydd mewn perthynas.

Fodd bynnag, mae 69 y cant wedi cadw’r eitemau hyn ond yn eu cuddio mewn cwpwrdd allan o’r golwg. Mae Oxfam yn annog y cyplau hyn i gyfaddef eu gwir deimladau cyn lansiad y Ffair fawr rhoi a phrynu Oxfam,  sef ymgyrch fawr gan Oxfam sy’n galw ar bobl i roi’r atodion nad ydyn nhw eisiau i Oxfam, ac i brynu rhai newydd o’u siop Oxfam leol. Cynhelir y Ffair rhwng 20 Mawrth ac 19 Ebrill, gyda gobaith o godi hyd at filiwn o bunnoedd sy’n angenrheidiol ar gyfer prosiectau Oxfam.

Mae’r elusen angen i bawb roi eu trysorau cudd i Oxfam a phrynu rhai newydd hyfryd yn un o’u 668 o siopau neu o siop Oxfam ar y we, ble mae llond cistiau o drysorau unigryw a ffasiynol yn llechu, a hynny am bris da. Mae Oxfam yn galw am roddion ar gyfer dynion a merched, rhywbeth o feltiau i freichledi, hetiau i sodlau uchel, dolennau llawes i watshiau, sbectolau haul i sgarffiau. Mae pŵer gan y manion ychwanegol hyn i newid bywydau, yn ogystal â gwisgoedd.

“Petai bob person yn rhoi un eitem mi allai godi miloedd o bunnoedd ar gyfer gwaith hanfodol Oxfam. Gallai miliwn o bunnoedd dalu am nwyddau ysgol ar gyfer 125,000 o blant yn Niger,” meddai Kirsty Davies, Pennaeth Oxfam Cymru. “Gallai adeiladu 20,000 o dai bach mewn argyfwng, neu ddarparu 140,000 o rwydau mosgito i warchod pobl tra’u bod nhw’n cysgu. Dyna pam ei fod yn hanfodol i bobl roi'r eitemau hyn nad ydyn nhw eu heisiau i Oxfam.”

Roedd yr arolwg yn dangos mai gwahaniaeth mewn chwaeth oedd y prif reswm pam bod pobl ddim yn hoffi eitemau bach (68 y cant). Nid yw’n syndod felly bod bron i draean o gyplau (31%) yn cyfaddef bod ganddyn nhw chwaeth wahanol iawn i’w partner. Roedd pedwardeg y cant o gariadon oedd wedi eu siomi gan anrheg ddim ond wedi gwisgo’r eitem unwaith neu ddwy, ac yna wedi eu cuddio. Yr eitemau mwyaf cyffredin oedd gemwaith (29 y cant), er bod pedwar y cant yn cyfaddef eu bod wedi derbyn ‘man bag’ nad oedden nhw’n eu hoffi. Yr eitem fwyaf poblogaidd i’w dderbyn oedd oriawr (12 y cant) gyda modrwy ddyweddïo yn ail agos (9 y cant).

Roedd yr adroddiad hefyd yn dangos mwy o arferion siopau diddorol gwahanol gyplau. Roedd bron i hanner y merched (43 y cant) yn dweud eu bod nhw’n hyderus wrth brynu eitem ffasiwn i’w partner, i gymharu â dim ond chwarter y dynion (25 y cant). Mae gwahaniaethau daearyddol hefyd. Mae pedwar deg y cant o bobl yn Nwyrain canolbarth Lloegr yn fwy tebygol o ddweud wrth eu partner os ydyn nhw wedi prynu’r peth anghywir, i’w gymharu â dim ond 5 y cant yng Nghymru! Mae dynion a merched yn meddwl bod synnwyr digrifwch yn bwysicach na synnwyr ffasiwn. Ond mae steil yn bwysicach i ddynion mae’n debyg, gan ei fod yn flaenoriaeth i 13 y cant o ddynion ond dim ond i 6 y cant o ferched.

Mae’r Ffair Fawr Rhoi a Phrynu yn cychwyn gyda Phenwythnos Eitemau Ffasiwn rhwng 20 a 22 Mawrth, pan fydd dros 1,000 o eitemau gan gynllunwyr megis esgidiau Louboutin a sgarffiau Dior ar gael ar wefan Oxfam www.oxfam.org.uk/shop <http://www.oxfam.org.uk/shop>.

Mae’r Ffair Fawr Rhoi a Phrynu wedi denu cefnogaeth gan enwogion, gan gynnwys Laurence Fox, Hilary Alexander, Nina Wadia a George Lamb, sydd oll wedi modelu eitemau ar gyfer yr ymgyrch.
“Mae rhai o fy hoff bethau i wedi dod o Oxfam. Mae modd prynu pethau tlws iawn yno,” meddai Laurence Fox. “Rydw i’n casáu gwastraff a does wir ddim rhaid prynu pethau newydd sbon. Mae nifer o bethau yn gwella gydag amser, yn enwedig bagiau. Wrth i chi roi a phrynu gan Oxfam, rydych chi’n newid bywydau pobl er well. Mae pawb yn ennill.”

Mae’r Ffair Fawr Rhoi a Phrynu yn cychwyn gyda Phenwythnos Eitemau Ffasiwn rhwng 20 a 22 Mawrth, pan fydd dros 1,000 o eitemau gan gynllunwyr megis esgidiau Louboutin a sgarffiau Dior ar gael ar wefan Oxfam www.oxfam.org.uk/shop <http://www.oxfam.org.uk/shop>. 

Rhannu |