Mwy o Newyddion

RSS Icon
23 Mawrth 2015

Croesawu cyfyngiad cyflymder y tu allan i ysgol bentref

Mae Aelod Seneddol Plaid Cymru Arfon, Hywel Williams wedi croesawu camau i wella diogelwch tu allan i ysgol gynradd brysur ar ôl ymgyrch egnïol gan rieni, trigolion ac arweinwyr cymunedol lleol.

Mae arwyddion cyflymder 20MYA rwan mewn lle tu allan i Ysgol Gynradd Y Felinheli ac ar hyd Ffordd Y Wern. Mae AS Arfon Hywel Williams wedi diolch i’r gymuned leol am eu gwaith caled wrth dynnu sylw i’r mater.

Dywedodd Hywel Williams AS: “Hoffwn dalu teyrnged i drigolion lleol yn y Felin sydd wedi gweithio’n galed iawn i sicrhau fod yr arwyddion 20MYA rwan yn eu lle, yn enwedig y Cyngor Cymuned lleol sydd wedi ymgyrchu’n ddi-flino ar y mater. Mae hwn yn gam cadarnhaol iawn yn nhermau diogelwch ffyrdd.

"Mae plant yn croesi’r ffordd o Ystâd Y Wern i’r ysgol yn rheolaidd. Mae cyfyngu cyflymder â’r potensial o wella diogelwch ffyrdd tra’n ei gwneud yn haws i gerddwyr fynd o gwmpas eu bywyd bob dydd.”    

Ychwanegodd y Cynghorydd lleol, Siân Gwenllian: “Mae creu parth 20MYA yn newyddion da iawn i’r ysgol ac i drigolion Y Wern, sydd wedi lleisio pryder ynglŷn â chyflymder cerbydau a diogelwch ffordd yn y rhan yma o’r pentref.

"Mae’r ffordd tu allan i’r ysgol yn brysur iawn, yn enwedig yn y bore a’r prynhawn pan fo plant yn cyrraedd a gadael yr ysgol. Mae cryn dipyn o gerbydau a pobl yn ymgynull yn yr ardal.

"Mae’r gymuned wedi gweithio â’u gilydd i amlygu’r broblem ac rwy’n falch fod yr arwyddion rwan mewn lle, gyda tri arwydd newydd yn nodi’r hyn a ddisgwilyr gan yrrwyr yn yr ardal yma. Rwy’n ddiolchgar I Gyngor Gwynedd am weithio â’r gymuned i wneud hyn yn bosib.”    

Rhannu |