Mwy o Newyddion

RSS Icon
20 Mawrth 2015

Galw am wahardd y defnydd o adnodd milwrol mewn ysgolion

Mae un o enwadau Cristnogol Cymru yn galw ar y Gweinidog Addysg, Huw Lewis, i wahardd y defnydd o adnodd sy’n hybu rôl y lluoedd arfog a hanes milwrol Prydain yn ysgolion Cymru.

Mae Cyngor Undeb yr Annibynwyr Cymraeg yn honni bod y pecyn adnoddau, sy’n cynnwys rhagair gan y Prif Weinidog David Cameron, yn torri Deddf Addysg 1996 (Adran 406) – sy’n gwahardd dylanwad gwleidyddol mewn ysgolion.

Honna’r Annibynwyr bod y deunydd, a gafodd ei baratoi gan y Weinyddiaeth Amddiffyn ar gyfer plant mor ifanc a phum mlwydd oed, yn cyflwyno achos unochrog i gyfiawnhau bodolaeth y lluoedd arfog a’r diwydiant arfau, yn hyrwyddo recriwtio i’r lluoedd arfog a hefyd yn annog gweithgarwch militaraidd ei naws mewn ysgolion.

Mae’r Annibynwyr hefyd yn ysgrifennu at Michael Fallon, Ysgrifennydd Amddiffyn y DU, yn tynnu ei sylw at gynnwys amhriodol y pecyn i blant, yng nghyd-destun y Ddeddf Addysg.

Cafodd y pecyn adnoddau ar gyfer plant 5 –16 oed am waith Lluoedd Arfog Prydain ei baratoi gan y Weinyddiaeth Amddiffyn. Y Prif Weinidog, David Cameron, luniodd y rhagair, sy’n brolio rôl y lluoedd arfog ar draws y byd. Lluniwyd llawer o’r cynnwys gan uwch-swyddogion neu gyn uwch-swyddogion lluoedd arfog Prydain.  Mae’r Ysgrifennydd Amddiffyn Michael Fallon AS yn gosod naws yr adnodd yn ei ddatganiad: "The military ethos is a golden thread that can be an example of what is best about our nation and helps it improve everything it touches."

Er nad yw’n rhan o’r Cwricwlwm, mae’r adnodd yma ar gael i bob ysgol ym Mhrydain. Dywed Cyngor Undeb yr Annibynwyr ei fod yn:

•      cyflwyno safbwyntiau gwleidyddol fel ffeithiau, ac ymyrraeth filwrol fel polisi derbyniol;

•      adnodd gwael o safbwynt addysgiadol am fod cymhlethdod y testun yn anaddas ar gyfer llawer o blant, gyda nifer o’r cwestiynau wedi’u cyflwyno mewn modd sy’n arwain plant at atebion arbennig, heb ddarparu’r deunydd fyddai ei angen i astudio’r testun yn llawn; 

•      gwneud achos unochrog i gyfiawnhau bodolaeth y lluoedd arfog a’r diwydiant arfau, heb adael lle i drafodaeth am ffyrdd amgen o ddatrys gwrthdaro. Mae’n rhamanteiddio rhyfel ac yn clodfori “gwerthoedd milwrol”;

•      cynnwys deunydd sy’n hyrwyddo recriwtio i’r lluoedd arfog a hefyd yn hyrwyddo polisi llywodraeth Prydain o annog gweithgarwch militaraidd ei naws mewn ysgolion;

•      cyflwyno hanes unochrog ac anfeirniadol o ran Prydain mewn rhyfeloedd, gan anwybyddu’r drafodaeth am foesoldeb a sail gyfreithiol y fath ryfeloedd. 

Nodwyd mai dyma’r math o adnodd a geir mewn gwledydd sydd â “strwythurau llai-na-democrataidd” lle mae llywodraethau’n defnyddio’r system addysg i fagu dinasyddion sydd ag agwedd anfeirniadol tuag at y wladwriaeth. Mae Deddf Addysg 1996 (Adran 406) yn gwahardd dylanwad gwleidyddol mewn ysgolion. Mae’n ymddangos bod yr adnodd yma yn torri’r Ddeddf.

Llun: Parch Hywel Wyn Richards

Rhannu |