Mwy o Newyddion

RSS Icon
20 Mawrth 2015

Peidiwch a'i gadael yn rhy hwyr yn Nyffryn Nantlle

Gall cymryd y Gymraeg yn Nyffryn Nantlle yn ganiataol fod yn farwol i'r iaith – dyna oedd y rhybydd plaen mewn cyfarfod cyhoeddus ym Mhenygroes ar nos Iau, Mawrth 19 pan ddaeth 30 o bobl y pentref i ddangos pryder am y 152 o dai fydd yn dod i'r dyffryn yn sgil y Cynllun Datblygu Lleol arfaethedig.

Er nad yw Cyngor Gwynedd yn disgwyl unrhyw 'newid naturiol' rhwng geni a marw tan 2021, maent yn disgwyl i boblogaeth y sir dyfu o 6,000 yn ystod y ddegawd nesaf.

Yn y degawd diwethaf, 25 tŷ godwyd yn y pentref, 'nawr mae'r cyngor eisiau codi dros deirgwaith y nifer hwn, sef 89. Rhwng Cyfrifiad 2001 ac un 2011, cwympodd canran y siaradwyr Cymraeg yn y pentref o 88.1% i 86.8%. Yn ystod yr un cyfnod, cwympodd y nifer a anwyd yng Nghymru o 85.8% i 84.5%.

“Yn amlwg, mae cysylltiad rhwng codi tai, pobl o'r tu allan yn symud i mewn, a gostyngiad yn niferoedd y siaradwyr Cymraeg,” meddai Ben Gregory, un o'r siaradwyr yn y cyfarfod.

Y mae ysgol gynradd Bro Lleu bron yn llawn. Nid oes dosbarth dysgu Cymraeg yn y dyffryn. Eto, mae Cyngor Gwynedd o'r farn y gall Dyffryn Nantlle gymhathu mewnfudwyr – heb unrhyw gymorth o'r tu allan. Y rheswm a geir bob tro yw nad yw sefyllfa ieithyddol y dyffryn cynddrwg â llefydd eraill.

“Erbyn y bydd ddigon drwg, bydd yn rhy hwyr,” meddai Angharad Tomos, un o'r rhai fynychodd y cyfarfod.

Gwion Owain, cadeirydd y gangen leol o Blaid Cymru oedd y siaradwr arall.

Meddai: “Yr hyn fyddwn i yn eich annog i wneud yw ysgrifennu at eich cynghorydd lleol i ofyn iddynt wrthod y cynnig.

"Mae perygl dychrynllyd i'r Gymraeg os aiff y Cynllun Datblygu Lleol rhagddo. Mae'n bwysig hefyd galw ar Carwyn Jones hefyd i gynnwys amod 'effaith ar y Gymraeg' yn y Bil Cynllunio.”

Dywedodd hefyd y byddai 8,000 o dai ar draws Gwynedd a Mon yn cael effaith “farwol” ar y Gymraeg yn ei chadarnle naturiol olaf.

Mae 11 diwrnod ar ôl i bobl lenwi ffurflen gan y Cyngor yn mynegi gwrthwynebiad ffurfiol i'r Cynllun Datblgu. Mae Cymdeithas yr Iaith, trefnwyr y cyfarfod, yn annog cynifer â phosib i'w llenwi.

Llun: Angharad Tomos

Rhannu |