Mwy o Newyddion
Trenau newydd i roi hwb i wasanaethau’r Canolbarth
Mae’r Gweinidog Trafnidiaeth Edwina Hart wedi cyhoeddi manylion y trenau oriau brig newydd fydd yn teithio bob awr rhwng Aberystwyth a’r Amwythig a’r gwasanaethau ychwanegol ar lein Calon Cymru, yn ystod ei hymweliad heddiw (Gwener, 20 Mawrth) â gorsaf drenau Aberystwyth. Mae’r orsaf newydd ei hadnewyddu.
Mae amserau’r gwasanaethau newydd, a ariennir gan Lywodraeth Cymru, wedi’u cyhoeddi ar amserlen Trenau Arriva Cymru ac yn dechrau ar 17 Mai 2015.
Bydd pedwar gwasanaeth dwyffordd newydd rhwng Aberystwyth a’r Amwythig, Llun – Gwener, bob awr ar oriau brig y bore a’r prynhawn, gan adael Aberystwyth am 06.30, 08.30, 12.30 ac 18.30.
Bydd dau wasanaeth dwyffordd newydd ar ddydd Sul hefyd, yn gadael Aberystwyth am 10.30 ac 14.33 a bydd y gwasanaethau hwyr ar Lein Arfordir y Cambrian rhwng Abermaw a Phwllheli (Llun – Sadwrn) yn cael eu gwella.
Ar Lein Canol Cymru, bydd teithiau ychwanegol rhwng Llanymddyfri a Thregŵyr/Abertawe a rhwng Llandrindod a’r Amwythig/Crewe gan gynnig cysylltiadau boreol da i gymudwyr ddydd Llun i ddydd Gwener. Bydd y gwasanaethau newydd yn creu 20 o swyddi newydd ar y trenau a’r depot.
Dangosodd arolwg a gynhaliwyd gan Fforwm Lein Calon Cymru fod galw mawr am wasanaethau newydd ac am newid yr amserlen er lles cymudwyr.
Cafodd y Gweinidog weld hefyd y gwerth £3.1m o welliannau i orsaf Aberystwyth sy’n cynnwys mynedfa well ac ystafell aros, canopi a thoiledau newydd. Talwyd amdanynt gan Lywodraeth Cymru ac Ewrop. Neilltuodd Network Rail £50,000 tuag at waith cynnal a chadw ar ganopi’r orsaf.
Dywedodd Mrs Hart: “Mae’r gwariant hwn yn dangos ymrwymiad Llywodraeth Cymru i fuddsoddi mewn trafnidiaeth gyhoeddus, sy’n hanfodol i lawer o bobl, gan gynnwys aelodau mwyaf bregus ein cymdeithas, iddynt allu cael swyddi a gwasanaethau. Dangosodd arolwg Fforwm Calon Cymru bod manteision clir i gymudwyr, busnesau lleol, twristiaid a myfyrwyr prifysgol o gael gwasanaethau newydd a gwell.”
Meddai’r Cynghorydd Mansel Williams, Cadeirydd Pwyllgor Cyswllt Rheilffordd Aberystwyth-Amwythig a Fforwm Lein Calon Cymru, a fu’n gyfrifol am ymgyrch dros y ddwy flynedd diwethaf i gael gwasanaethau ychwanegol ar y ddwy linell: “Mae’r gwasanaethau newydd hyn yn newyddion rhagorol i bobl y Canolbarth. Mae’r ddwy lein yn darparu gwasanaeth hanfodol i ardalwyr, cymudwyr, ymwelwyr a myfyrwyr. Rwy’n falch iawn bod y Gweinidog ac Arriva Trains wedi gallu cyflenwi’r trenau ychwanegol hyn. Rwy’n siŵr y byddant yn dipyn o hwb i’r economi leol ac economi’r Canolbarth.
“Mae hyn yn ganlyniad o nifer o drafodaethau gyda’r Gweinidog yn dilyn i’r pwyllgor yn profi’r angen ar gyfer gwasanaeth mwy aml. Rydym yn hapus iawn fod ein gwaith wedi arwain at y datblygiadau pwysig yma a fydd yn meddwl gymaint i’r bobl, cymunedau ac economi’r Canolbarth.
Rydym wedi cwbl gwefreiddio fod ein pwyllgor wedi cyflawni’r gwaith sydd wedi arwain at hyn, ac rydym yn ddiolchgar iawn i’r Gweinidog am ymateb mewn ffordd mor bositif i alluogi'r gwaith yma i ddigwydd. Mae hyn yn gam anferth ymlaen i’r rhanbarth, a'r datblygiad fwyaf arwyddocaol i’r Llinell Cambrian ers preifateiddio.”
Meddai Ian Bullock, Rheolwr Gyfarwyddwr Trenau Arriva Cymru:
“Rydym yn hynod falch o gael gweithio’n glos â Llywodraeth Cymru ar y gwelliannau pwysig hyn i’r amserlen ac i’r orsaf yn Aberystwyth. Rydym yn cydweithio’n glos â CroesoCymru a’n partneriaid lleol i hyrwyddo’r gwasanaethau newydd hyn i bobl Cymru a’r gororau.
“Rydym yn disgwyl i’r teithiau newydd hyn ddenu mwy a mwy o bobl i ymweld â rhai o rannau harddaf ein rhwydwaith.”