Mwy o Newyddion

RSS Icon
19 Mawrth 2015

Ymgynghori ar adrefnu addysg yn ardal Y Bala

Mae Cyngor Gwynedd yn ymgynghori ar gynlluniau i adrefnu addysg yn nalgylch ardal Y Berwyn fyddai’n golygu sefydlu Campws Dysgu ar gyfer disgyblion 3- 19 oed yn nhref y Bala.

Fel rhan o’r broses statudol, mae gan aelodau’r cyhoedd hyd 28 Ebrill i gymryd rhan yn yr ymgynghoriad. Daw hyn yn dilyn penderfyniad Cabinet y Cyngor y mis diwethaf i symud ymlaen i:

-        gynnal ymgynghoriad statudol i gau Ysgol Beuno Sant, Ysgol Bro Tegid ac Ysgol y Berwyn yn Y Bala, a sefydlu Campws Dysgu ar gyfer disgyblion 3-19 oed ar safle presennol Ysgol y Berwyn;

-        cynnal ymgynghoriad statudol i ffedereiddio tair ysgol wledig dalgylch y Berwyn, sef  Ysgol Bro Tryweryn, Ysgol Ffridd y Llyn ac Ysgol OM Edwards.

Dywedodd y Cynghorydd Gareth Thomas, Aelod Cabinet Addysg Cyngor Gwynedd: “Ers sawl blwyddyn bellach, mae yna drafodaethau wedi eu cynnal am adrefnu addysg yn ardal Y Bala ac mae wir awydd yn lleol i symud y gwaith yma yn ei flaen er mwyn sicrhau fod disgyblion yr ardal yn gallu elwa ar y cyfleusterau addysgol gorau bosib.

“Mae’n ffaith nad ydi’r sefyllfa fel ag y mae yn y dalgylch ar hyn o bryd yn gynaliadwy i’r dyfodol, gyda niferoedd disgyblion wedi gostwng dros y chwarter canrif diwethaf sydd wedi arwain yn ei dro at ddosbarthiadau yn rhai o’r ysgolion i fod yn hanner gwag. Nid yw’r rhai o hen adeiladau ysgolion yn addas i bwrpas ar gyfer addysgu yn yr 21ain ganrif, felly rwy’n awyddus i’n gweld yn symud ymlaen i gyflwyno newidiadau er gwell.

“Mae’r cynlluniau sy’n cael eu hystyried fel rhan o’r ymgynghoriad presennol yn cynnig ffordd bositif a blaengar i ddiogelu a chryfhau’r ddarpariaeth addysg yn nalgylch Berwyn, ac yn sicrhau ei fod yn gynaliadwy ar gyfer y dyfodol.

“Bydd sylwadau disgyblion y dalgylch yn derbyn ystyriaeth llawn fel rhan o’r ymgynghoriad, a byddwn hefyd yn annog unrhyw un sydd â diddordeb yn addysg yn y dalgylch i gymryd rhan yn y broses.”

Mae pecyn gwerth £9.27 miliwn wedi ei ddwyn ynghyd gan Gyngor Gwynedd a Llywodraeth Cymru er mwyn yr ad-drefniad hwn.

Fel rhan o’r ymgynghoriad cyhoeddus, bydd diwrnod galw-heibio agored yn cael ei gynnal yn Ysgol Y Berwyn ar ddydd Iau, 26 Mawrth rhwng 2pm ac 8pm - mae croeso i unrhyw un fynychu i gael gwybodaeth a dweud eu dweud am yr argymhellion.

Mae copïau o’r ddogfen ymgynghori yn cael ei ddarparu i rieni a staff, ac mae copïau hefyd ar gael ymhob ysgol yn y dalgylch ac yn y llyfrgell leol. Mae copïau hefyd ar gael ar wefan y Cyngor: www.gwynedd.gov.uk/TrefniadaethYsgolion

Rhannu |