Mwy o Newyddion
Edrych ar gynlluniau i gadw pobl hŷn allan o’r ysbyty
Mae penaethiaid iechyd ledled Cymru wedi cael eu hannog i ddysgu gwersi er mwyn helpu i ostwng oedran cleifion sy’n cael eu derbyn i ysbytai trwy unedau brys.
Mae cais Rhyddid Gwybodaeth gan Blaid Cymru wedi datgelu fod Bwrdd Iechyd Aneurin Bevan wedi llwyddo i ostwng oedran cyfartalog cleifion a dderbyniwyd dros y pum mlynedd ddiwethaf, tra bod y byrddau eraill oll wedi gweld cynnydd – rhai yn sylweddol.
Gofynnodd Plaid Cymru am oedran cyfartalog a chymedrig cleifion a dderbyniwyd i’r ysbyty trwy uned frys ym mis Rhagfyr – pwynt pinsio o ran pwysau’r gaeaf - o 2010 i 2014.
Canfu hyn fod oedran cyfartalog cleifion a dderbyniwyd trwy unedau brys yn ardal Bwrdd Iechyd Aneurin Bevan wedi cwympo o 52 51.
Ar y llaw arall, yn Ysbyty Athrofaol Cymru, Caerdydd, cododd yr oedran cyfartalog o 45.8 i 54.8. Yn ardal Betsi Cadwaladr, cafwyd cynnydd cyfartalog o 55.74 i 58.
Yn ardal Gwent, sy’n dod dan Fwrdd Iechyd Aneurin Bevan, bu Rhaglen Llesgedd Gwent ar waith ers 2011. Un o amcanion allweddol y fenter hon yw canolbwyntio ar ofal ataliol ac osgoi gorfod derbyn pobl i’r ysbyty lle bynnag y bo modd, ac y mae’n bartneriaeth rhwng y bwrdd iechyd lleol ac awdurdodau lleol.
Dywedodd Elin Jones, Gweinidog Iechyd cysgodol Plaid Cymru: “Dengys y ffigyrau a gafwyd gan Blaid Cymru fod Rhaglen Llesgedd Gwent yn cael effaith o ran gostwng nifer y sawl sy’n cael eu derbyn i’r ysbyty.
“Ar adeg pan fo’n hadrannau brys dan bwysau oherwydd cleifion hŷn gydag anghenion mwy cymhleth, mae’n amlwg fod yn rhaid i fyrddau iechyd eraill ddysgu o’r cynllun hwn.
“Yn amlwg, mae’n well os gallwn edrych ar ôl pobl hŷn y tu allan i’r ysbyty yn hytrach nac ynddynt, ac wrth gwrs, y mae integreiddio gofal iechyd a chymdeithasol yn hanfodol yn hyn o beth. Mae Plaid Cymru wedi cyhoeddi cynlluniau am integreiddio gofal iechyd a chymdeithasol fel y gallwn roi anghenion cleifion yn gyntaf.
“Mae Rhaglen Llesgedd Gwent yn dangos yn amlwg beth ellir ei wneud pan fo mudiadau yn gweithio gyda’i gilydd, ac yn dangos hefyd pa mor bwysig y gall gwasanaethau gofal cymdeithasol dan nawdd awdurdodau lleol fod wrth helpu’r GIG. Mae angen i Lywodraeth Cymru ystyried cyflwyno’r cynllun llwyddiannus hwn ledled Cymru, i leihau pwysau ar ein hysbytai a helpu’r GIG.”