Mwy o Newyddion
Rhoddion cyn-etholiad yn masgio realiti'r toriadau
Mae Jonathan Edwards AS, llefarydd Plaid Cymru ar y Trysorlys, wedi ymateb i'r Gyllideb drwy gyhuddo'r Canghellor o guddio tu ol i'r penawdau tra'n hogi'r fwyell ar gyfer biliynau o doriadau pellach i wasanaethau cyhoeddus.
Yn dilyn cyhoeddiad Plaid Cymru yr wythnos diwethaf ar sut fyddai'r blaid yn tyfu'r economi mewn modd teg a chytbwys, dywedodd Mr Edwards fod llymder wedi methu'n llwyr a bod angen buddsoddiad sylweddol mewn isadeiledd er mwyn creu swyddi a thwf economaidd.
Dywedodd Mr Edwards: "Dyma Gyllideb llawn addewidio gwag gan y Canghellor sy'n brysur yn hogi'r fwyell yn barod am y senedd nesaf.
"Mae'r rhoddion cyn-etholiad sydd wedi eu dylunio i blesio pleidlais graidd y Toriaidd yn cuddio'r realiti y bydd ein gwasanaethau cyhoeddus yn dioddef toriadau anferth yn y senedd nesaf a hynny gyda cefnogaeth Llafur.
"Mae hi'n hynod debygol y bydd Cyllideb arall yn cael ei chyhoeddi ar ol yr etholiad, fel yn achos 2010, sy'n golygu mai cynllun dros dro yw hwn yn unig.
"Mae Plaid Cymru yn llwyr gefnogi'r cynlluniau i adeiladu morglawdd ym Mae Abertawe i greu swyddi ac ynni cynaliadwy. Er hyn, byddai'n well gennym weld buddsoddiad uniongyrchol yn y prosiect yn hytrach na model cyllidol fydd yn golygu mai'r prynwyr ynni fydd yn ysgwyddo cost y prosiect.
"Ar y cyfan, mae'r Gyllideb hon yn dangos nad yw San Steffan yn gweithio i Gymru. Mae Plaid Cymru eisiau rhoi terfyn ar lymder, cynnydd mewn buddsoddiad isadeiledd, ac i Gymru gael ei chyllido i'r un lefel a'r Alban.
"Yr her fawr sy'n wynebu economi Cymru a'r DG yw lefelau isel o gynhyrchu a lefelau isel o fuddsoddiad busnes.
"Byddai ein cynlluniau i gynyddu buddsoddiad isadeiledd o 1% o GDP y DG bob blwyddyn yn ailgydbwyso'r economi a sicrhau fod twf yn cyrraedd pob cwr o Gymru. Byddai'r cynnydd bychan hwn yn dod a bron i £1bn i'n cenedl bob blwyddyn.
"Wrth i Lafur a'r Toriaid addo biliynau'n fwy o doriadau fydd yn ergyd bellach i gymunedau Cymreig, mae gennym gynlluniau cyfrifol i dyfu'r economi a rhoi stop ar drin Cymru fel cenedl ail ddosbarth."