Mwy o Newyddion
Llyfr llafar Cymraeg cyntaf ar gyfer ffonau clyfar
Gwasg y Lolfa yw’r cyntaf i gyhoeddi llyfr llafar cyflawn Cymraeg yn electronig.
Darllenir Bore Da gan Gwennan Evans, yr awdures, a dyma’r llyfr sain Cymraeg cyntaf i gael ei werthu ar wefan Audible.
Mae hefyd ar gael ar wefan Amazon ac iTunes, a gellir ei lawrlwytho i ffonau clyfar, llechi a chyfrifiaduron symudol eraill.
Gwasg y Lolfa oedd hefyd y cyntaf i gyhoeddi e-lyfrau Cymraeg a bellach mae’r cwmni wedi cyhoeddi dros 200 ohonynt.
Er bod fersiynau llafar o nofelau fel Martha, Jac a Sianco ac Un Nos Ola Leuad eisoes ar gael i’w prynu ar ffurf cryno-ddisgiau, dyma’r tro cyntaf i lyfr llafar Cymraeg fod ar gael i’w lawrlwytho yn electronig.
Bydd y llyfr llafar ar gael ar wefan Cyngor Llyfrau Cymru, Gwales.com, yn fuan. Bu i’r Lolfa gydweithio â Llyfrau Llafar Cymru yng Nghaerfyrddin yn ystod y broses o gynhyrchu’r ffeil sain, ac maent yn gobeithio rhyddhau ychwaneg o lyfrau llafar os bydd galw.
“Rydw i wrth fy modd mai fy nofel i yw’r llyfr Cymraeg cyntaf sydd ar gael fel llyfr llafar i’w lawrlwytho o’r we,” meddai Gwennan, sy’n cyflwyno’r bwletinau traffig a thywydd ar BBC Radio Cymru.
“Mae bron i dair blynedd wedi gwibio heibio ers i’r llyfr gael ei gyhoeddi mewn print ac fel e-lyfr, a’r gobaith yw y bydd yn cyrraedd cynulleidfa ehangach ar ffurf llyfr llafar.
“Roedd y broses o recordio Bore Da yn un wahanol iawn i fy mhrofiad o fod o flaen meicroffon yn sgil fy ngwaith o ddydd i ddydd,” esbonia’r awdures.
“Dyw’r bwletinau traffig a thywydd ddim yn para mwy na rhyw funud neu ddwy ond mae’r recordiad o Bore Da yn para bron i bum awr a hanner. Gan nad oedd yn fyw, roedd modd cymryd seibiant ac ailrecordio, diolch i’r drefn!
“Mae’n gwneud i mi deimlo’n freintiedig fod pobl wedi dewis treulio amser yn fy nghwmni wrth ddarllen Bore Da, ac mae’r ffaith bod cyfle nawr i bobl wrando arna i’n ei darllen yn dod â’r awdur a’r darllenydd gam yn nes eto. Ond mae hefyd yn fy nychryn braidd, yn enwedig gan mai hon yw fy nofel gyntaf!
“Dw i’n mwynhau gwrando ar lyfrau llafar fy hunan wrth yrru,” ychwanega Gwennan. “Wrth reswm, dw i hefyd wrth fy modd yn clywed detholiadau o lyfrau Cymraeg diweddar ar slot ‘Llyfr Bob Wythnos’ rhaglen Bore Cothi.”
Mae Gwennan yn fyfyriwr a darlithydd PhD mewn Ysgrifennu Creadigol ym Mhrifysgol Abertawe, ac wrthi’n gweithio ar ei hail nofel.