Mwy o Newyddion

RSS Icon
19 Mawrth 2015

Cymru ar flaen y gad o ran arfer gorau caffael

Mae Datganiad Polisi Caffael Cymru wedi helpu i sicrhau bod Cymru ar flaen y gad o ran arfer gorau caffael yn y Deyrnas Unedig, meddai Jane Hutt, Gweinidog Cyllid a Busnes y Llywodraeth, heddiw.

Tra’r oedd yn siarad mewn digwyddiad yn ystod Wythnos Caffael Cymru, cadarnhaodd y Gweinidog y byddai Polisi Caffael Cymru ar ei newydd wedd yn cael ei lansio cyn bo hir i adeiladu ar y llwyddiant hyd yn hyn. Bellach yn ei phedwaredd flwyddyn, mae Wythnos Caffael yn croesawu amrywiaeth o siaradwyr rhyngwladol i Gymru, gan gynnwys rhai o Brifysgol George Washington, Singapore, yr Aifft, De Affrica ac Iwerddon.

Disgrifiodd y Gweinidog hefyd sut y mae caffael moesegol wrth wraidd arferion caffael Llywodraeth Cymru ac anogodd y sector cyhoeddus yng Nghymru i ddilyn yr esiampl.

Dywedodd y Gweinidog: “Rwy’n hynod falch fod Cymru ar flaen y gad o ran arfer gorau caffael – mae gennym rai o’r polisïau mwyaf blaengar yn y Deyrnas Unedig. Cyn bo hir byddaf yn lansio Datganiad Polisi Caffael Cymru ar ei newydd wedd, a fydd yn adeiladu ar y llwyddiant hwn

"Bydd y datganiad diwygiedig yn pwysleisio ymhellach sut y byddaf yn cefnogi gwelliant mewn galluedd caffael ac yn egluro’r hyn rwy’n ei ddisgwyl gan gyrff cyhoeddus a sut y byddaf yn mesur ac yn monitro llwyddiant.

“Mae caffael moesegol wrth wraidd arferion caffael Llywodraeth Cymru ac mae hyn yn rhywbeth y byddaf i’n ei hyrwyddo’n gyson ar draws y sector cyhoeddus yng Nghymru. Mae’n hanfodol bwysig bod polisi caffael yn adlewyrchu ein gwerthoedd cymdeithasol ac economaidd.

“Mae’n rhaid inni anfon neges glir at gyflenwyr ein bod yn delio â busnesau proffesiynol sy’n trin eu gweithwyr yn deg ac yn dangos parch iddynt. Mae’r polisi cosbrestru a lansiais yn 2013 wedi gwneud gwahaniaeth sylweddol drwy newid ymddygiadau busnesau a diogelu dinasyddion Cymru.

“Dim ond yr wythnos ddiwethaf, lansiais ganllawiau i roi sylw i faterion hunangyflogaeth ffug a’r defnydd o gynlluniau tâl ambarél sydd ar waith ar rai safleoedd adeiladu. Unwaith eto mae Cymru yn arwain y DU ar arferion a pholisi caffael.”
 

Rhannu |