Mwy o Newyddion

RSS Icon
08 Ebrill 2011
Karen Owen

Does yna ddim lle i guddio y tro yma

MAE’N rhyfedd sut y mae gwleidyddion o bob plaid yn defnyddio’r un geiriau, weithiau, i ddisgrifio’r un pethau.

Kirsty Williams, arweinydd y Democratiaid Rhyddfrydol yng Nghymru, yn dweud yr wythnos hon y bydd yr ymgyrch etholiadol yn un “gyffrous” i’w phlaid hi. Ac yna, yr un wythnos, mewn cyfweliad gyda Y Cymro, arweinydd Ceidwadwyr Cymru, Nick Bourne, yn dweud ei fod yn edrych ymlaen at ymgyrch “hynod o gyffrous” eleni.

“Does yna ddim lle i neb guddio y tro yma,” meddai Nick Bourne, wrth egluro ei ddewis o air. “Mae’r refferendwm tros bwerau deddfu wedi bod. Roedd y canlyniad yn rhoi pwerau deddfu i’r Cynulliad ar faterion sydd wedi eu datganoli. Roedd y canlyniad yn unfryd unfarn ar draws Cymru, oni bai am Sir Fynwy. Felly mae’r hyn sy’n digwydd nesa’ lan i ni.”

Mae’r hyn yr hoffai Nick Bourne ei weld yn digwydd nesaf yn cynnwys mynd i’r afael â Fformiwla Barnett – y ffordd o weithio allan faint o arian sy’n dod i Gymru o San Steffan bob blwyddyn.

“Mae angen edrych eto ar y fformiwla, ac mae angen ei ddiwygio, oherwydd mae Cymru yn colli mas,” meddai.

I ddarllen mwy CLICIWCH YMA

Rhannu |