Mwy o Newyddion
Adolygiad o lefelau cyflog mewn Addysg Uwch ac Addysg Bellach
Mae Llywodraeth Cymru wedi cyhoeddi y bydd yn gofyn i Gyngor Cyllido Addysg Uwch Cymru i fonitro lefelau cyflog mewn sefydliadau Addysg Uwch ac Addysg Bellach yn flynyddol.
Daw’r cyhoeddiad wedi i AC y Canolbarth a’r Gorllewin Simon Thomas holi’r Gweinidog Addysg yn y Senedd ynghylch trefniadau llywodraethu prifysgolion yng Nghymru.
Dywedodd AC y Canolbarth a’r Gorllewin, Gweinidog cysgodol Plaid Cymru dros Addysg, Sgiliau a’r Iaith Gymraeg Simon Thomas: “Mae 10 mlynedd wedi mynd heibio ers i Gyngor Cyllido Addysg Uwch Cymru gynnal eu hadolygiad diwethaf o gyflogau mewn prifysgolion a chyhoeddi canllawiau i ystyried hyder y cyhoedd a rhanddeiliaid, felly mae’r monitro hwn ar lefelau cyflog i’w groesawu. Buom yn disgwyl yn hir am y monitro hwn.
“Rydym wedi clywed o ymchwil annibynnol gan Ysgol Fusnes Brighton fod y cynnydd mewn termau real yng nghyflogau Is-gangellorion yn 59 y cant - bedair gwaith y cynnydd i ddarlithwyr.
“Mae newyddiadurwyr ymchwiliol o raglen S4C Y Byd ar Bedwar hefyd wedi datgelu rhai ceisiadau am dreuliau gan uwch-staff oedd yn ddigon i godi gwallt pen rhywun.”