Mwy o Newyddion
Rhaid rhoi arweiniad ar newidiadau i’r cwricwlwm
Rhybuddiodd Gweinidog Addysg cysgodol Plaid Cymru Simon Thomas fod yn rhaid i Lywodraeth Cymru yn awr gamu ymlaen a rhoi arweiniad cryf yn dilyn Adolygiad Donaldson o’r cwricwlwm.
Dywedodd Simon Thomas na ddylai Llywodraeth Cymru guddio y tu ôl i ymgynghoriad arall eto fyth ond rhaid iddynt weithredu rhag blaen i arwain ar y newidiadau a argymhellwyd.
Dywedodd Gweinidog Addysg cysgodol Plaid Cymru Simon Thomas: “Wedi cyfnod maith o ddatganiadau, adolygiadau ac ymgynghori, mae’n bryd i’r Gweinidog Addysg arwain ar y newidiadau i’r cwricwlwm a gweithredu’r newidiadau a argymhellwyd gan Adolygiad Donaldson.
“Fe wnaeth yr adolygiad lawer o bwyntiau rhagorol. Rydym oll eisiau gweld gwneud mwy i annog merched i astudio gwyddoniaeth, technoleg, peirianneg a mathemateg yn eu haddysg, a rhaid rhoi arweiniad am amgylcheddau dysgu cymysg eu hoedran. Nawr yw’r amser i weithredu’r newidiadau hynny.
“Rhaid i’r Gweinidog roi’r gorau i gyhoeddi ei fod yn chwarae ar ymylon addysg a’r proffesiwn dysgu, a chanolbwyntio ar weithredu’r cwricwlwm gwir Gymreig cyntaf mewn partneriaeth.”