Mwy o Newyddion

RSS Icon
06 Mawrth 2015

£20 miliwn yn hwb i arloesi mewn busnes

Mae Edwina Hart, Gweinidog yr Economi, Gwyddoniaeth a Thrafnidiaeth, wedi cyhoeddi cyllid o £20 miliwn gan yr Undeb Ewropeaidd a Llywodraeth Cymru ar gyfer rhaglen newydd i helpu busnesau yng Nghymru i dyfu drwy ddatblygu syniadau a chynnyrch newydd. 
 
Bydd y gwasanaeth Arloesi SMART yn datblygu ar lwyddiant y rhaglen Arloesi ar gyfer Busnes. Rhoddodd y rhaglen honno gymorth i fusnesau Cymru gynyddu’n sylweddol eu lefelau ymchwil a datblygu, gan roi help llaw i fwy na 1,200 o fusnesau a datblygu tua 950 o gynnyrch a phrosesau newydd a gwell. O dan y prosiect hwn, cafodd £23 miliwn ei fuddsoddi a chafodd fwy na 340 o swyddi newydd eu creu.  
 
Bydd y rhaglen Arloesi SMART yn helpu busnesau i gael gafael ar gymorth ariannol ar gyfer ymchwil a datblygu; darparu cyngor a chefnogaeth arbenigol; a sicrhau bod prifysgolion a’r sectorau cyhoeddus a phreifat yn cydweithio i gynnig cynnyrch, prosesau a gwasanaethau newydd ac arloesol.
 
Gwnaeth Mrs Hart y cyhoeddiad yn ystod ymweliad â Guardian Global Technologies yn y Pîl. Mae’r cwmni hwn yn cynllunio a gweithgynhyrchu offer logio i’w defnyddio mewn tyllau turio olew a nwy a chafodd gymorth ariannol i ehangu o dan y rhaglen Arloesi ar gyfer Busnes. 
 
Dywedodd y Gweinidog, “Er lles economi Cymru yn y tymor hir, mae’n hanfodol bod busnesau Cymru yn buddsoddi mewn ymchwil a datblygu.”
 
“Rwy’n falch o gyhoeddi cyllid ar gyfer y rhaglen Arloesi SMART, a fydd yn adeiladu ar lwyddiant y rhaglen Arloesi ar gyfer Busnes i helpu busnesau Cymru i ddatblygu syniadau a chynnyrch newydd ar gyfer eu masnachu’n llwyddiannus. Yn ogystal â darparu cyngor ac arweiniad i fusnesau sy’n gobeithio datblygu syniadau newydd, bydd yn annog y byd academaidd a’r byd masnachol i gydweithio â’i gilydd.”
 
Bydd y rhaglen Arloesi SMART yn cael ei hariannu gyda £12 miliwn o Gronfa Datblygu Rhanbarthol Ewrop ac £8 miliwn gan Lywodraeth Cymru.
 
Dywedodd Jane Hutt, y Gweinidog Cyllid a Busnes y Llywodraeth: “Rwyf wrth fy modd bod mwy na £300 miliwn o gyllid yr Undeb Ewropeaidd yn mynd i gael ei dargedu’n benodol at gefnogi ymchwil ac arloesi drwy brosiectau fel Arloesi SMART, i greu hinsawdd gadarn a deinamig ar gyfer twf busnesau yng Nghymru. Bydd buddsoddiad yr Undeb Ewropeaidd hefyd yn rhoi cwmnïau Cymru mewn gwell sefyllfa i gystadlu’n llwyddiannus am £80 biliwn o gronfeydd yr Undeb Ewropeaidd, a fydd ar gael drwy Horizon 2020, sef rhaglen ymchwil ac arloesi fwyaf yr Undeb Ewropeaidd.’
 
Dywedodd Prif Weithredwr Guardian Global Technologies, Patrick Keenan: “Diolch i’r cymorth rydyn ni wedi’i gael gan Lywodraeth Cymru a thrwy’r rhaglen Arloesi ar gyfer Busnes, rydyn ni wedi buddsoddi mewn technoleg newydd a staff medrus er mwyn sicrhau ein bod ni’n gallu cystadlu ac allforio mwy. Mae’n hanfodol datblygu syniadau a chynnyrch newydd er mwyn sicrhau bod cwmnïau fel ein cwmni ni yn gallu tyfu.”
 

Rhannu |