Mwy o Newyddion

RSS Icon
06 Mawrth 2015

Cynulleidfa gyda Michael Sheen

Mae’r Academi Brydeinig Celfyddydau Ffilm a Theledu yng Nghymru, BAFTA Cymru, wedi cyhoeddi Cynulleidfa gyda Michael Sheen, sef digwyddiad lle bydd yr actor o Gymru sydd wedi cael ei enwebu am BAFTA, yn cynnig cipolwg ar ei yrfa hyd yn hyn.

Cynhelir y digwyddiad yn BAFTA 195 Piccadilly yn Llundain, ar 11 Mawrth, ac mae’n enghraifft o’r mathau o ddigwyddiadau y mae BAFTA Cymru yn eu trefnu ar gyfer cynulleidfaoedd y diwydiant a chynulleidfaoedd cyhoeddus yng Nghymru.

Dywedodd Hannah Raybould, Cyfarwyddwr BAFTA Cymru: “Mae’n bleser gan BAFTA Cymru ddathlu gwaith un o actorion mwyaf blaenllaw Cymru a chefnogwr brwd dros ddoniau newydd, yn y digwyddiad arbennig hwn.

"Mae gyrfa Michael, a gydnabyddir yn rhyngwladol, wedi bod yn ysbrydoliaeth i’r rheiny ag uchelgais i weithio yn y diwydiant ffilm a theledu, a thrwy gynnal y digwyddiad hwn, gobeithiwn godi proffil y doniau creadigol yng Nghymru, yn ogystal â thrafod ein cynnig i gynorthwyo pobl sy’n dechrau eu gyrfa yn y diwydiant, gyda’n partneriaid allweddol, enillwyr gwobrau BAFTA Cymru a chefnogwyr eraill a fydd yn mynychu’r noson.”

Mae Michael Sheen, sy’n hanu o Gasnewydd yn wreiddiol ac a gofiodd ei fagu ym Mhort Talbot, de Cymru, yn adnabyddus am ei waith ar dros 60 o brosiectau sgrin o’r radd flaenaf, yn y DU a’r UD.

Mae Sheen wedi derbyn enwebiadau am ei waith gan BAFTA ar gyfer ei rolau yn The Queen, Kenneth Williams: Fantabulosa! a Dirty Filthy Love, Gwobrau Emmy Primetime a’r Golden Globes.

Yn 2013, enillodd Wobr Actor Gorau’r Academig Brydeinig yng Nghymru ar gyfer The Gospel of Us, sef ailadroddiad cyfoes o stori Dioddefaint, a gynhaliwyd ledled Port Talbot, gyda’r cyhoedd fel cast, criw ac arwyr.

Dywedodd Michael Sheen: “Mae’n anrhydedd ac rwy’n edrych ymlaen y fawr at allu rhannu noson yn BAFTA. Mae bob amser yn bleser bod yn gysylltiedig â sefydliad sy’n gwneud cymaint dros y diwydiant ffilm a theledu gartref a thramor."

Mae Michael Sheen yn cael ei adnabod hefyd fel llysgennad gweithgar dros UNICEF, yn gefnogwr brwd dros hawliau plant a mentrau amrywiol sy’n annog pobl ifanc o bob cefndir yn eu huchelgeisiau i weithio yn y diwydiant ffilm a theledu.

Bydd BAFTA Cymru: Cynulleidfa gyda Michael Sheen, dan arweiniad Boyd HIlton. Yn ystod y digwyddiad, bydd Jeroboam o siampên Taittinger yn cael ei gyflwyno i Sheen, wedi’i lofnodi gan enillwyr BAFTA Cymru'r llynedd, i’w arwerthu gan y Clwb Gweithgareddau Anghenion Arbennig ym Mhort Talbot.

Bydd y digwyddiad, a gefnogir gan Lywodraeth Cymru, Menter a Busnes, a Siampên Taittinger, yn cynnwys derbyniad rhwydweithio ar gyfer gwesteion pwysig hefyd, a fydd yn cynnig y gorau o gynhyrchion bwyd a diod o Gymru.

Dywedodd y Dirprwy Weinidog dros Ddiwylliant, Chwaraeon a Thwristiaeth , Ken Skates; "Mae Michael Sheen yn enghraifft ddisglair o'r dalent sy'n bodoli yng Nghymru ac rwyf wrth fy modd bod ein sector diwydiannau creadigol llewyrchus yn caniatáu i dalent Cymreig o flaen a thu ôl i'r camera i ddatblygu eu sgiliau ac adeiladu eu gyrfaoedd yng Nghymru tra'n gwneud cyfraniad sylweddol i economi Cymru

Mae'r Diwydiannau Creadigol yn ffynnu yng Nghymru. Nid ydym yn gorffwys ar ein rhwyfau, fodd bynnag, ac rydym yn denu hyd yn oed mwy o gynyhyrchiadau teledu a ffilm o ansawdd uchel i Gymru fel rhan hanfodol o'n strategaeth i dyfu'r diwydiant. Rydym wedi cael nifer o lwyddiannau rhyngwladol gyda Da Vinci’s Demons, Atlantis, Doctor Who a Sherlock, i enwi dim ond rhai , ac mae'r rhain yn cadarnhau enw da Cymru fel chwaraewr o bwys ar gyfer diwydiannau creadigol."

Dywedodd Myrddin Davies, Rheolwr prosiect Cywain ym Menter a Busnes, sy’n cynorthwyo’r gwaith o ddatblygu cynhyrchion newydd a marchnadoedd ar gyfer cynhyrchion amaethyddol a physgod, “Mae’n bleser gennym fod yn rhan o’r digwyddiad hwn a fydd, nid yn unig yn llwyfan ar gyfer ein diwydiannau creadigol, ond hefyd yn gyfle i arddangos cynhyrchion bwyd a diod o Gymru.”

Mae pob tocyn ar gyfer y cyhoedd i’r digwyddiad wedi’u gwerthu, ond bydd podlediad ar gael yn ddiweddarach yn y mis ar sianel ddysgu ar-lein BAFTA Guru (www.bafta.org/guru).

I gael gwybodaeth am aelodaeth BAFTA Cymru a rhaglen ddigwyddiadau, ewch i www.bafta.org/wales

Rhannu |