Mwy o Newyddion

RSS Icon
06 Mawrth 2015

Seremoni Llyfr y Flwyddyn yn dychwelyd i Gaernarfon

Mae Llenyddiaeth Cymru wedi cyhoeddi y bydd Seremoni Wobrwyo Llyfr y Flwyddyn 2015 yn dychwelyd i adeilad Galeri Caernarfon ar ddydd Iau 4 Mehefin, ble bydd awduron y gweithiau gorau a gyhoeddwyd yn 2014 yn derbyn cyfanswm o £24,000 mewn gwobrau.

Eleni, bydd uchafbwynt y Wobr fawreddog hon yn nodi dechrau Gŵyl INC Galeri Caernarfon – gŵyl dridiau gelfyddydol a diwylliannol gyda phwyslais ar lenyddiaeth.

Dywedodd Lleucu Siencyn, Prif Weithredwr Llenyddiaeth Cymru: “Mae Llenyddiaeth Cymru yn credu’n gryf fod Llenyddiaeth Cymraeg a Chymreig yn perthyn i bawb ym mhob cwr o’r wlad.

"Drwy weithio mewn partneriaeth â Galeri Caernarfon, un o ganolfannau diwylliannol pwysicaf Cymru, gallwn edrych ymlaen at groesawu cynulleidfa newydd i un o uchafbwyntiau’r calendr llenyddol yng Nghymru, a sicrhau Seremoni Wobrwyo arbennig i Llyfr y Flwyddyn unwaith eto eleni.”

Mae dros 140 o lyfrau wedi eu cyflwyno ar gyfer Gwobr Llyfr y Flwyddyn 2015, ac mae’r beirniaid wedi bod yn darllen pentyrrau o lyfrau ers mis Mawrth 2014. Beirniaid y llyfrau Cymraeg eleni yw’r awdur Annes Glynn, y Prifardd Hywel Griffiths a’r perfformiwr, DJ ac awdur Gareth Potter. Y panel beirniadu Saesneg eleni yw’r bardd a’r cerddor Paul Henry, yr awdur arobryn Tessa Hadley, a’r newyddiadurwr a beirniad llenyddol Alex Clark.

Fe gyhoeddir Rhestr Fer Gwobr Llyfr y Flwyddyn ar ddydd Gwener 1 Mai am 1.00 pm ar ffurf darllediad ar-lein a ellir ei wylio ar wefannau Llyfr y Flwyddyn, Llenyddiaeth Cymru a S4C/Pethe (dolenni isod). Yn ystod y darllediad bydd cynrychiolydd o’r paneli beirniadu Cymraeg a Saesneg yn cyhoeddi’r tri chasgliad sy’n dod i’r brig yn y categorïau canlynol: Barddoniaeth, Ffuglen a Ffeithiol Greadigol.

Fe gyhoeddir enillwyr Gwobr Llyfr y Flwyddyn 2015 mewn Seremoni Wobrwyo arbennig yn Galeri Caernarfon ddydd Iau 4 Mehefin. Bydd enillydd pob categori yn derbyn gwobr ariannol o £2,000, a bydd prif enillwyr Llyfr y Flwyddyn 2015 yn derbyn gwobr ychwanegol o £6,000.

Pris tocyn i’r Seremoni Wobrwyo yw £10 (£8 gostyngiadau) ac maent ar werth gan Galeri Caernarfon: 01286 685222 / www.galericaernarfon.com

Rhannu |