Mwy o Newyddion
Dathlu cysylltiadau cryf rhwng Cymru a’r UE ym Mrwsel
Mae’r Gweinidog Cyllid a Busnes y Llywodraeth Jane Hutt wedi bod ar ymweliad â Brwsel i gwrdd â chynrychiolwyr sy’n hyrwyddo Cymru yn Ewrop a dathlu’r cysylltiadau cryf rhwng Cymru a’r Undeb Ewropeaidd.
Wrth gynnal derbyniad Dydd Gŵyl Dewi, cadarnhaodd y Gweinidog ymrwymiad Llywodraeth Cymru i’r UE ac amlinellodd sut mae Cymru wedi elwa ar fasnach ar draws y Farchnad Sengl, cronfeydd yr UE i gefnogi buddsoddiadau mewn twf a swyddi, a chyfleoedd i astudio a gweithio yng ngwledydd eraill yr UE.
Yn ôl arolwg ICM diweddar ar gyfer BBC Cymru, dywedodd bron dau draean (63%) o bobl Cymru y byddai’n well ganddynt weld y DU yn aros yn yr Undeb Ewropeaidd.
Roedd y derbyniad Dydd Gŵyl Dewi gydag uwch-gynrychiolwyr yr Undeb Ewropeaidd, ASEau a Llysgenhadon yn arddangos y gorau o ddiwydiant bwyd a diod Cymru.
Ym Mrwsel, cafodd y Gweinidog gyfarfodydd gyda chynrychiolwyr o’r Comisiwn Ewropeaidd i drafod Cronfa Gymdeithasol Ewrop a phecyn buddsoddi y Llywydd Juncker o €300bn a mwy (EFSI) y mae Cymru’n ceisio elwa ohono.
Hefyd cyfarfu’r Gweinidog â chynrychiolwyr sy’n gyfrifol am hyrwyddo Cymru yn yr UE yn gweithio yn Nhŷ Cymru, a chynrychiolwyr ym Mrwsel ar gyfer Llywodraeth Leol ac Addysg Uwch Cymru.
Dywedodd y Gweinidog: “Mae Cymru yn falch o fod yn rhan o’r Undeb Ewropeaidd ac rydym yn gwbl ymrwymedig i fod yn bartner adeiladol i’n cyfeillion ar draws yr Undeb Ewropeaidd a’r Deyrnas Unedig.
"Mae’n hanfodol, er mwyn ffyniant Cymru a’r Deyrnas Unedig yn ehangach, ein bod yn parhau i fod yn aelod o’r Undeb Ewropeaidd. Mae Cymru wedi elwa’n sylweddol ar arian Ewropeaidd, sydd wedi’n galluogi i wynebu’r heriau sy’n gysylltiedig â thwf a newid economaidd.”