Mwy o Newyddion
Gwerthu bwyd hyll!
Mae cysyniad newydd mewn siopa wedi cyrraedd Bangor. Ddydd Iau, agorodd ‘Siop Bwydydd Hyll’ er mwyn gwerthu’r holl ffrwythau a llysiau a wrthodwyd lle iddynt ar silffoedd yr archfarchnadoedd a siopau mawrion oherwydd nad oeddynt yn ddigon hardd o ran eu golwg ond sydd yn hollol iawn i’w bwyta.
Bydd y Siop Bwydydd Hyll ar agor yng Nghanolfan Siopa Deiniol, Bangor pob ddydd Iau, Gwener a Sadwrn yn ystod mis Mawrth er mwyn arbed y bwydydd hyn rhag gorwedd mewn pentyrrau diflas neu fynd i’r domen sbwriel.
Mae’r Siop Bwydydd Hyll yn ceisio rhoi bywyd newydd i’r bwydydd maethlon er anarferol yr olwg, nad yw’n cyrraedd safonau ‘harddwch’ arferol, gan ddathlu prydferthwch mewnol a chynnig y cyfle i chi eu hachub rhag y domen sbwriel am bris rhad!
Bydd sudd, cawl a smwddis ar werth ar y safle i ddangos pa mor flasus yw bwydydd hyll. Cewch gyfle i brynu bocsys hefyd sy'n cynnwys popeth rydych eu hangen i wneud eich cawl neu eich lobsgóws eich hun gartref.
Bydd Canolfan Newid Ymddygiad Cymru y Brifysgol hefyd yn cymryd rhan er mwyn newid ein hagweddau i fod o blaid bwydydd hyll.
Rhai o fyfyrwyr Prifysgol Bangor sydd y tu cefn i’r broject
Eglurodd Lowri Owen o broject Byddwch Fentrus y Gwasanaeth Gyrfaoedd a Chyflogadwyedd: "Mae Prifysgol Bangor yn annog ei myfyrwyr i fod yn entrepreneuraidd ac ystyried yr opsiwn o fod yn hunangyflogedig a dechrau eu busnesau eu hunain
" Er na fyddant i gyd yn mynd i’r maes diwydiant adwerthu, mae cymryd rhan yn y project hwn yn rhoi blas iddynt o redeg eu busnes eu hunain a'u helpu i ddatblygu'r sgiliau cyflogadwyedd mae cyflogwyr eisiau eu gweld."
"Hoffwn ddiolch i Gyngor Dinas Bangor am roi'r cyfle i ni ddefnyddio'r siop dros dro," ychwanegodd Lowri.
Meddai Dan Taylor, myfyriwr Meistr ôl-radd a fydd yn rheoli'r siop dros dro: "Mae hyn yn gyfle gwych i fyfyrwyr gael profiad hollbwysig ar gyfer cyflogaeth yn y dyfodol, ac yn galluogi myfyrwyr i brofi bod y wybodaeth a gesglir ganddynt wrth wneud eu gradd yn cael effaith ym myd gwaith.
"Bydd y siop bwydydd hyll yn fan gwerthu i fyfyrwyr fel y gallant ddangos i'r gymuned bod creadigrwydd ac arloesi yn rhan bwysig o'u graddau."
Meddai Gwyn Hughes, Clerc Cyngor Dinas Bangor: "Fel rhan o'n menter barhaus i adfywio'r Stryd Fawr, rydym yn hynod falch o weithio'n agos gyda Phrifysgol Bangor ar syniadau arloesol i gynnig profiad gwahanol i siopwyr yng nghanol dref na fyddent yn ei gael yn rhywle arall."
Cefnogir rhaglen Byddwch Fentrus Prifysgol Bangor gan gyllid o Ganolfan Ranbarthol Gogledd Orllewin Cymru Llywodraeth Cymru a gyllidir yn rhannol gan Gronfa Ddatblygu Ranbarthol Ewrop a Llywodraeth Cymru i weithredu'r Strategaeth Entrepreneuriaeth Ieuenctid i Gymru.
Llun: Pearl Mathers o Borthaethwy - y gyntaf i brynu o'r siop