Mwy o Newyddion

RSS Icon
06 Mawrth 2015

Codi treth cyngor yng Ngwynedd

Mewn cyfarfod o’r Cyngor llawn a gynhaliwyd ddydd Iau, mae cynghorwyr Gwynedd wedi cymeradwyo cyllideb yr awdurdod ar gyfer y flwyddyn ariannol 2015/16.

Dros y 12 mis nesaf, mae’r Cyngor yn rhagweld y bydd angen £228 miliwn i ddarparu gwasanaethau lleol sy’n cynnwys gofal i bobl hŷn, ysgolion, casglu gwastraff a chanolfannau hamdden. O’r swm hwn, bydd £168 miliwn yn cael ei ariannu trwy grant llywodraeth, gan adael £60 miliwn y bydd angen i’r Cyngor ei godi’n lleol.

Fe rhan o’i strategaeth ariannol derfynol, pleidleisiodd cynghorwyr i osod cynnydd Treth Cyngor o 4.5% ar gyfer 2015/16. Bydd hyn yn golygu y bydd Treth Cyngor yn cynhyrchu bron i £58 miliwn yn ystod y flwyddyn ariannol, gyda £2 filiwn ychwanegol yn dod o falansau’r Cyngor.

Dywedodd y Cynghorydd Peredur Jenkins, Aelod Cabinet Adnoddau Cyngor Gwynedd: “Yn anffodus, mae’r cyllid y mae Cyngor Gwynedd yn ei dderbyn gan Lywodraeth Cymru’n cael ei leihau o £7 miliwn, neu 4% ar gyfer 2015/16. Daw hyn ar ben y lleihad o £8 miliwn neu 4.4% mewn cyllid y bu’n rhaid i ni ddygymod ag o’r llynedd.

“Mae’r ffaith fod y swm o arian yr ydan ni’n ei dderbyn gan y llywodraeth tuag at y gost o ddarparu gwasanaethau yn dal i fod filiynau o bunnau’n llai na’r hyn sydd ei angen, yn golygu nad oedd gynnon ni fel Cyngor ddewis ond cynyddu Treth Cyngor 4.5%. Mae hyn yn gyfwerth â 96 ceiniog yr wythnos ar gyfartaledd i gartref Band D.

“Pe na bydden ni wedi cymryd y penderfyniad anodd yma, fyddai gynnon ni ddim dewis ond gweithredu toriadau poenus yn ystod 2015/16. Er enghraifft, byddai cynnydd o 3.5% mewn Treth Cyngor wedi arwain at £553,700 o doriadau ychwanegol mewn gwasanaethau.

“Trwy gynllunio ymlaen llaw a defnyddio balansau fel mesur unwaith yn unig i osod cyllideb gytbwys, rydan ni wedi gallu prynu 12 mis ychwanegol er mwyn cynyddu arbedion i’r eithaf a chynllunio’n gynhwysol ar gyfer y toriadau i wasanaethau fydd yn anorfod o fis Ebrill 2016 ymlaen.

“Yn dilyn penderfyniad y Cyngor llawn lle gwelwyd y cynnig yn derbyn sêl bendith gan aelodau o sawl grŵp gwleidyddol, ein blaenoriaeth ar gyfer y misoedd nesaf fydd ymgynghori’n fanwl gyda thrigolion fel y gallwn flaenoriaethu’n ofalus i dorri’r meysydd gwasanaethau hynny a fydd yn effeithio leiaf ar drigolion y sir.”

Rhannu |