Mwy o Newyddion

RSS Icon
06 Mawrth 2015

Cerddorfa siambr mewn cytgord gyda chôr o’r Swistir

Mae cerddorfa siambr flaenllaw o ogledd Cymru wedi creu cyswllt gyda chôr o'r Swistir i lansio rhaglen gyfnewid ddiwylliannol ryngwladol newydd.

Fel rhan o’r prosiect bydd Ensemble Cymru yn comisiynu gwaith corawl ar y cyd gyda cherddorfa o’r Swistir. A bydd y darn newydd yn cael ei berffomrio yn Gymraeg a Románsh, sydd yn iaith leiafrifol yn y Swistir.

Bydd yr Ensemble yn gweithio gyda chôr Vokalensemble Incantanti sy’n dod o ran o’r Swistir lle mae’r bobl yn siarad Románsh, sy’n un o bedair iaith swyddogol y wlad yn ogystal ag Almaeneg, Eidaleg a Ffrangeg.

Cafodd y rhaglen gyfnewid ei datgelu mewn noson gala codi arian arbennig a lwyfannwyd yn lleoliad moethus Gwesty Gwledig a Sba Neuadd Tre-Ysgawen, ger Llangefni ar Ynys Môn.

Ymysg y gwesteion arbennig yr oedd Is-gennad Anrhydeddus y Swistir yng Nghymru, Ruth Thomas-Lehmann a 15 o aelodau o gymuned y Swistir ar draws gogledd Cymru a gafodd eu gwahodd yn arbennig i'r noson.

Ymysg y gwesteion arbennig eraill oedd yr Arglwydd Dafydd Elis-Thomas, Llywydd Anrhydeddus Ensemble Cymru, Arglwydd Raglaw Gwynedd, Edmund Seymour Bailey, ac Is-Ganghellor Prifysgol Bangor, Yr Athro John Hughes.

Sefydlwyd Ensemble Cymru yn 2001 gan y Cyfarwyddwr Artistig, Peryn Clement-Evans, i hyrwyddo cerddoriaeth siambr yng Nghymru a thu hwnt.

Dros y blynyddoedd diwethaf drwy ei deithiau cenedlaethol, darllediadau teledu a chryno ddisgiau mae Ensemble Cymru wedi cyrraedd dros 20,000 o bobl yng Nghymru yn unig. Y gerddorfa hefyd yw Ensemble Preswyl Prifysgol Bangor a Venue Cymru yn Llandudno.

Mae’n perfformio mewn grwpiau o rhwng un ac 20 o gerddorion ac fel elusen gofrestredig rhoddir unrhyw arian sydd dros ben o’i ymddangosiadau ar draws Cymru yn syth yn ôl i gynlluniau profiad gwaith a gweithdai ar gyfer ysgolion.

Mae’r ymweliadau hyn wedi cynnwys ymweliadau ag Ysgol Cymerau ym Mhwllheli, Ysgol Hafod Lon, sef ysgol ar gyfer plant a phobl ifanc ag anghenion addysgol arbennig, a Galeri Caernarfon lle mae’n cynnal sesiwn hyfforddi i athrawon a pherfformwyr cerddoriaeth.

Fel rhan o’i weledigaeth i gefnogi ysgolion a sefydliadau trwy gerddoriaeth a’r celfyddydau, rhoddodd yr ensemble nod i'w hun yn ôl yn 2009 i weithio gyda grwpiau cerddorol a phobl ifanc mewn gwledydd ar draws Ewrop erbyn 2020.

Clywodd gwesteion yn lansiad y rhaglen gyfnewid ddiwylliannol bod cyswllt swyddogol cyntaf yr ensemble wedi cael ei ffurfio gyda Vokalensemble Incantani o ganton Grisons yn y Swistir.

Esboniodd Peryn fod côr Vokalensemble Incantani wedi ei ddewis oherwydd bod gan yr ensemble ddiddordeb arbennig mewn ffurfio cyfeillgarwch gyda chymunedau ieithoedd lleiafrifol eraill mewn gwledydd tebyg i Gymru.

Meddai: “Mae arweinydd y côr, Christian Klucker, yn bwriadu ymweld â ni yng ngogledd Cymru ar ddiwedd y mis hwn ac un o’r pethau cyntaf yr ydym yn bwriadu ei wneud fel rhan o’n partneriaeth newydd gyda’r côr yw gweithio gydag ef ar ein hymddangosiad yn Bachfest.

“Rhan o ŵyl gerddoriaeth fyd-eang Bach in the Subways yw hyn, sy'n dathlu bywyd J S Bach ac mae’r ensemble yn bwriadu rhoi cyfres o berfformiadau am ddim ar Fawrth 20 a 21 mewn lleoliadau ar draws Bangor a Llandudno, gan gynnwys digwyddiad arbennig iawn pryd y bydd y gerddorfa’n cael ei harwain gan Christian Klucker.

“Yn ystod ymweliad Christian â Chymru, byddwn hefyd yn dechrau’r paratoadau ar gyfer cyd-gynhyrchiad yr ensemble gyda’r côr a fydd yn cynnwys teithiau yng Nghymru a’r Swistir yn 2016.

“Ar yr un pryd rydym yn gobeithio gweithio gyda Vokalensemble Incantanti i gomisiynu darn newydd o gerddoriaeth siambr gan ddefnyddio’r Gymraeg a iaith Románsh gyda'r bwriad wedyn o fynd ar daith i berfformio'r darn ar draws y byd.”

Cryfhawyd cysylltiad newydd yr ensemble â'r Swistir hefyd yn ystod cyfres o gyngherddau a lwyfannwyd gan yr ensemble yn y cyfnod yn arwain at y digwyddiad lansio mewn lleoliadau fel Pwllheli, Llandudno, Caergybi a Chilcain pan ymunodd Naomi Burrell, y feiolinydd Swisaidd-Prydeinig, â’r ensemble i berfformio cerddoriaeth gan y cyfansoddwr o’r Swistir Frank Martin.

Ychwanegodd Peryn: “Mae sefydlu’r ddolen gyntaf gyda’r Swistir yn bwysig iawn i’n gweledigaeth o hybu dealltwriaeth ryngwladol trwy gerddoriaeth ac mae’n gwireddu breuddwyd sy’n mynd yn ôl i 2009.”

“Ar ôl gweithio’n agos gyda Vokalensemble Incantanti rydym yn bwriadu chwilio am bartneriaid Ewropeaidd pellach yn Iwerddon, yr Iseldiroedd, Llydaw a mannau eraill a gweithio gydag cherddorfeydd siambr eraill, gan gynnwys corau, ar brosiectau a fydd yn mynd â cherddoriaeth i ysgolion a chymunedau.

“Roedd y noson lansio yn Neuadd Tre-Ysgawen yn hynod lwyddiannus ac yn brofiad pleserus iawn, a hoffwn ddiolch i’r gwesty, sydd â chysylltiad â’r Swistir, am y gefnogaeth y maen nhw wedi ei roi er mwyn gwneud y peth yn bosibl.”

“Rwy’n gwybod eu bod yn rhannu ein brwdfrydedd am bwysigrwydd cael dimensiwn rhyngwladol er mwyn galluogi plant yng Nghymru i gael cysylltiad â diwylliannau a thraddodiadau nid yn unig yn eu gwlad eu hunain, ond ar draws y byd.”

Dywedodd llysgennad y Swistir yn y DU, Dominik Furgler: “Roedd gen i ddiddordeb mawr pan glywais am y fenter i gael cyfnewid diwylliannol rhwng gogledd Cymru a gwledydd eraill.”

“Rwy’n diolch i chi am y fenter hon ac yn gobeithio y bydd yn galluogi datblygu prosiectau newydd, yn enwedig os ydynt yn gynrychioliadol o amrywiaeth diwylliannol ein dwy wlad.”

Roedd URS Cadruvi, cyfarwyddwr Lia Rumantscha, y mudiad o’r Swistir sy’n hyrwyddo’r iaith Románsh, hefyd yn canmol y fenter cyfnewid diwylliannol newydd, gan ddweud: “Mae cadarnhau hunaniaeth a sicrhau gwelededd yn hanfodol i unrhyw leiafrif ieithyddol.”

“Rydym yn falch iawn i rannu ein cerddoriaeth, ein hiaith a’n diwylliant gyda chi, ac rydym yn edrych ymlaen at ddysgu mwy am Gymru.”

Dywedodd Neil Rowlands, prif swyddog gweithredol Gwesty Gwledig a Sba Neuadd Tre-Ysgawen: “Roeddem yn falch iawn i gynnal a noddi’r digwyddiad lansio llwyddiannus iawn, ac o gofio ein cysylltiad hir gyda’r Swistir roedd yn arbennig o braf bod côr o ardal Románsh y wlad wedi bod yn rhan o gychwyn y rhaglen gyfnewid.

“Rydym hefyd yn falch o gefnogi’r rhaglen gyfan gan ein bod yn credu'n gryf bod gweithio gyda phlant trwy gerddoriaeth a’r celfyddydau yn helpu i godi pontydd yn rhyngwladol. Rydym yn dymuno pob llwyddiant i’r fenter.

“Roedd cynnal y lansiad hefyd yn rhan o’n gweledigaeth hirdymor i groesawu mwy o ddigwyddiadau diwylliannol o’r math hwn i Neuadd Tre-Ysgawen yn y dyfodol.”

Llun: Lansio rhaglen gyfnewid ddiwylliannol ryngwladol newydd Ensemble Cymru yng Ngwesty Tre-Ysgawen Hall. O'r chwith,   Dafydd Elis-Thomas;  Llywydd anrhydeddus Ensemble Cymru Neil Rowlands; prif swyddog gweithredol y gwesty Therese Meier; Arglwydd Raglaw Gwynedd Mr Edmund Seymour Bailey; Conswl Anrhydeddus Swistir yng Nghymru, Mrs. Ruth Thomas-Lehmann; a chyfarwyddwr artistig Ensemble Cymru  Peryn Clement-Evans

Rhannu |