Mwy o Newyddion

RSS Icon
06 Mawrth 2015

Caplan maes y gad yn codi gwydr i helpu elusennau lleol

Mae cyn gaplan y Lluoedd Arfog a wasanaethodd ar faes y gad yn Ynysoedd y Falkland a Rhyfel y Gwlff yn trefnu digwyddiad codi arian i elusennau yng Nghymru.

Mae’r Parchedig Marcus Wyn Robinson o Wynedd yn gwahodd elusennau i gynnig am gyfran o arian o ginio blasu gwin mae’n ei gynnal mewn canolfan ragoriaeth yng Nghymru.

Yn ystod y digwyddiad yng Nghanolfan Bwyd Cymru Bodnant, bydd yn ailadrodd hanes ei ddyddiau fel caplan y Lluoedd Arfog, a’i waith gyda milwyr oedd yn dioddef straen wedi trawma.

Bydd y ciniawyr yn mwynhau gwinoedd a ddewiswyd yn arbennig gan y gweinidog bywiog, a bydd yn esbonio maen nhw’n gwella ac yn cyd-fynd â’r prydau fydd yn cael eu coginio gan gogydd gweithredol Bodnant, Dai Davies.

Gall elusennau neu achosion da lleol eraill brynu bwrdd am y noson a bydd pob tocyn yn creu £5 i’r elusen.

Bydd arwerthiant cyfyngedig o eitemau a roddwyd yn wobrau raffl wedyn, gyda’r elw’n cael ei rannu’n gyfartal i nifer y cefnogwyr a ddenir gan bob elusen.

Mae’r Parchedig Robinson – a chwaraeodd weinidog llym oedd yn ffieiddio wrth y ddiod gadarn yn sioe deledu realiti BBC Wales Snowdonia 1890 – am glywed wrth elusennau lleol a fyddai’n hoffi elwa ar gyfran o’r arian a godir o’r digwyddiad ar 20 Mawrth.

“Fe fydd hi’n noson bleserus, gyda straeon, bwyd, gwin a chwerthin, yn ogystal â chodi arian i elusennau lleol,” addawodd y clerigwr a gafodd y llysenw ‘Taff the Laugh’ gan ei gyd-filwyr.

Cafodd ei fagu yng Nghaernarfon a darganfod cariad at win yn ystod ei ddyddiau fel myfyriwr yn Aberystwyth, lle gweithiodd fel gweinydd gwin mewn gwesty yn y dref cyn ymuno â’r weinidogaeth.

Roedd yn byw ac yn gweithio yn Llanberis ond dewisodd deithio’r byd fel caplan gyda’r Llynges Frenhinol. Datblygodd ei wybodaeth am win yn ystod ei 20 mlynedd gyda’r Lluoedd ac yn y diwedd, rhwng yr ysbeidiau o fod ar wasanaeth ar fwrdd y llongau awyrennau, bu’n gyfrifol am ddewis y gwin ar gyfer y gwleddoedd a’r ciniawau Swyddogol ffurfiol yn ystafell fwyta’r swyddogion.

 “Roeddwn i ar y llynges fach gyntaf o longau ar Ynysoedd y Falkland ac roeddwn i gyda’r un bobl am dros chwe mis. Datblygais ddiddordeb mewn trin y rhai oedd yn cael trafferthion delio â’r pethau ofnadwy roedden nhw wedi’u gweld yn ystod y rhyfel.

“Rydw i wedi bod mewn mannau peryglus, gyda phobl yn saethu tuag ataf. Daw’r caplan yn aelod o’r Groes Goch dan yr amgylchiadau hynny – rydych chi’n rhoi cymorth cyntaf i’r sawl sydd wedi’u hanafu ac yn gyfrifol am garcharorion rhyfel. 

“Rydw i wedi bod ag ofn am fy mywyd, ac wedi wynebu marwolaeth pan fu raid i mi lanio ar y môr ar hofrennydd yn arena’r Falklands,” ychwanegodd y Parch Robinson, sydd bellach yn weinidog Presbyteraidd gan wasanaethu Bethel, Caeathro a Llanrug.

Mae Chris Morton, rheolwr gyfarwyddwr Canolfan Bwyd Cymru Bodnant yn edrych ymlaen at groesawu’r Parch Robinson i fwyty'r Llofft Wair y ganolfan, sy’n edrych dros aber afon Conwy.

“Rydym yn chwilio o hyd am wahanol ffyrdd o godi arian i elusennau lleol – rydym wedi codi miliynau o bunnoedd dros y blynyddoedd diwethaf i Hosbis Plant Tŷ Gobaith, sydd ychydig i lawr y lôn o’r fan hon.

“Mae’n addo bod yn noson ddifyr dros ben - rydw i’n edrych ymlaen at glywed mwy am fywyd y gweinidog fel caplan y Llynges, yn ogystal â’i safbwyntiau ar y gwinoedd yma ym Modnant.”

Yn ogystal, treuliodd y Parch Robinson flwyddyn gyda Llynges Seland Newydd, gyda digon o amser ar dir sych i archwilio egin ddiwydiant gwin y wlad.

“Cefais gyfle i dreulio amser yn ardal Marlborough pan aeth gwinoedd fel Cloudy Bay yn  boblogaidd. Mae’n sicr y gwnaeth hynny fy helpu i ddeall gwinoedd y Byd Newydd a’r gwahaniaeth y mae amgylchedd naturiol (lle mae’r gwinwydd yn tyfu) yn ei wneud i win,” esboniodd.

“Ar gyfer ciniawau ffurfiol yng nghanolfannau’r llynges, roedd modd i mi ddewis gwinoedd i gyd-fynd â’r bwyd oedd yn cael ei weini, weithiau ar gyfer gwleddoedd o hyd at 300 o bobl gyda gwesteion arbennig iawn. Roeddwn i’n ffodus i allu troi at seler win hen iawn a llawn stoc y Llynges, fel y rhai yn Greenwich, oedd â gwinoedd yn dyddio’n ôl ddegawdau.

“Roedd hynny’n golygu y gallwn flasu gwinoedd a fyddai fel arall, ymhell y tu hwnt i bocedi unrhyw un bron. Er enghraifft, gofynnwyd i mi werthu ambell i hen gas o bort yn Sotheby’s un tro er mwyn codi arian i ystafell fwyta’r swyddogion. Roedd y casys yn dyddio’n ôl i 1945, un o’r blynyddoedd gorau ar gyfer port, a gwerthon nhw am ryw £1,000 y botel – a hynny yn y 1980au. Yn ffodus, mi wnaethon ni gadw rhai poteli’n ôl felly roedd dal modd i ni brofi’r ddiod benigamp honno!

“Yn aml iawn, mae pobl yn darganfod gwin y maen nhw’n ei hoffi ac yn cadw ato - i mi, yr her yw eu dysgu nhw i ddeall sut y gall gwahanol win wella’r pryd maen nhw’n ei fwyta. Nid snobyddiaeth gwin yw hyn ond dealltwriaeth o’r amrywiaeth o winoedd a’r hyn maen nhw’n ei gyfrannu at bryd o fwyd.”

Yr hyn sy’n eironig yw i’r Parch Robinson ymddangos fel gweinidog capel llym ei farn ar gyfres deledu Snowdonia 1890 y BBC, lle’r oedd teuluoedd lleol yn ail-greu bywyd yng Ngogledd Cymru Oes Fictoria. Fel y pregethwr penboeth Eliseus Owen ym mhulpud Capel Drws-y-Coed yn Nyffryn Nantlle, anogodd ei braidd i lofnodi’r llw yn erbyn yfed alcohol.

Mae gan Ganolfan Bwyd Cymru Bodnant a agorwyd yn ffurfiol gan y Tywysog Charles ym mis Gorffennaf 2012 yn Fferm Ffwrnais, Tal-y-cafn yn Nyffryn Conwy, ei llaethdy ei hun sy’n cynhyrchu caws a hufen iâ, yn ogystal â becws a chigydd ar y safle, sydd wedi ennill gwobrau am ei basteiod blasus. Mae yno hefyd siop win ac ystafelloedd te yn ogystal â bwyty'r Llofft Wair.

Dylai elusennau sydd am elwa ar y digwyddiad blasu gwin ym Modnant gyda’r Parch Marcus Wyn Robinson ffonio’r ganolfan ar 01492 651100, neu ewch i www.bodnant-welshfood.co.uk

Llun: Bydd y clerigwr o Ogledd Cymru, y Parch Marcus Wyn Robinson, yn ailadrodd straeon o faes y gad mewn digwyddiad blasu gwin elusennol yng Nghanolfan Bwyd Cymru Bodnant ar 20 Mawrth.

Rhannu |