Mwy o Newyddion

RSS Icon
27 Chwefror 2015

Galw ar i Crabb ymddiswyddo dros fethiant datganoli

Dylai Ysgrifennydd Cymru Stephen Crabb ymddiswyddo am iddo fethu gweithredu ar argymhellion Comisiwn Silk, dyna ymateb ymgyrchwyr i’r datganiad heddiw am setliad datganoli’r wlad.

Yn ôl arolwg barn YouGov a gyhoeddwyd gan Yes Cymru y llynedd, mae 63% o bobl Cymru eisiau gweld Cynulliad Cymru yn cael yr un pwerau newydd â’r Alban. Dangosodd arolwg barn ICM Comisiwn Silk hefyd gefnogaeth gref i ddatganoli materion fel budd-daliadau, darlledu, a phlismona. Dydy'r hyn a gyhoeddwyd heddiw ddim yn dod yn agos at hyn.

Wrth ymateb i gyhoeddiad ar y cyd rhwng y Prif Weinidog David Cameron, y Dirprwy Brif Weinidog Nick Clegg ac Ysgrifennydd Cymru Stephen Crabb, dywedodd Iestyn Rhobert, llefarydd ar ran grŵp pwyso YesCymru:

“Dyw'r datganiad ddim hyd yn oed yn cyflawni addewidion Comisiwn Silk; maent yn llusgo eu traed tu ôl i’r consensws ymysg y pleidiau gwleidyddol yng Nghymru, heb sôn am farn y bobl. Mae’n bell iawn tu ôl i’r farn gyhoeddus.

"Mi ddylai Stephen Crabb ymddiswyddo am fethu Cymru a'i phobl unwaith eto. Mae hyn yn profi nad ydyn ni’n gallu dibynnu ar y gwleidyddion i wireddu ein dyheadau. Mae’n rhaid i ni fynnu cael ein clywed. Wnawn ni ddim gadael i’r Toriaid, nac unrhyw wleidyddion eraill, atal taith gyfansoddiadol ein cenedl.”

“Mae'n amlwg allwn ni ddim dibynnu ar wleidyddion i ddweud pwy fydd yn rhedeg Cymru. Mae’r cyfrifoldeb dros ddyfodol Cymru ar ein hysgwyddau ni. Allwn ni ddim gadael i Gymru gael ei gadael ar ôl.

“Dyna pam mae’n rhaid i ni, bobl Cymru, uno yn ein galwad dros rymoedd i reoli ein tir a’n dŵr ynghyd â phwy sy’n tyllu oddi tano fe. Y pwerau i redeg ein heddlu a’n llysoedd. Y gallu i benderfynu ar ddarlledu, polisïau trethu a lles.

“Ymunwch â ni ar 4ydd Ebrill yng Nghaerdydd i gefnogi ymreolaeth: dros gydraddoldeb â’r Alban ac er mwyn y cenedlaethau a ddaw.”

* Cynhelir rali ‘Ymreolaeth - Chwarae teg i Gymru’ gan Yes Cymru tu allan i’r Senedd yng Nghaerdydd ar ddydd Sadwrn, 4ydd Ebrill. 

Rhannu |