Mwy o Newyddion

RSS Icon
08 Ebrill 2011
Karen Owen

Cyfnod cyffrous yn hanes Cymru

FE fydd etholiad y Cynulliad eleni “y pwysicaf ers datganoli”, yn ôl arweinydd y Democratiaid Rhyddfrydol yng Nghymru, a dyw hi ddim am adael i bersonoliaethau fod yn rhan o’r dadlau rhwng nawr a Mai 5.

Mewn cyfweliad gyda Y Cymro, mae Kirsty Williams yn gwrthod rhoi ei phen ar y bloc a darogan a fydd gan ei phlaid fwy neu lai o aelodau ym Mae Caerdydd ar ôl y bleidlais. Mae hi hefyd yn gwrthod trafod y modd y gallai dau o gyn-aelodau amlyca’r blaid yng Nghymru fod wedi troi pobol yn erbyn y Rhyddfrydwyr.

Deirgwaith, mae Y Cymro yn holi Kirsty Williams ynglŷn â Lembit Opik a Mick Bates – y naill yn gyn-Aelod Seneddol tros Sir Drefaldwyn a gollodd ei sedd i’r Ceidwadwr, Glyn Davies, yn Etholiad Cyffredinol 2010; a’r llall yn gyn-Aelod Cynulliad tros yr un etholaeth a gafodd ei ddiarddel o’r blaid y llynedd ar ôl ei gael yn euog mewn llys barn o ymosod ar baramedig ar ôl noson allan feddwol yng Nghaerdydd.

A theirgwaith, mae Kirsty Williams yn anwybyddu’r awgrym ac yn cyfeirio ei hateb tuag at y cadarnhaol.

“Mae gan ein plaid ni hanes hir a chadarn yn Sir Drefaldwyn ac ym Mhowys,” meddai Kirsty Williams, “ac rwy’n ffyddiog y bydd ein hymgeisydd ni eleni, sydd wedi ei eni a’i fagu yn y sir, mae o wedi gweithio yn y sir, sydd â theulu yno ac sy’n defnyddio’r gwasanaeth iechyd yno, yn gwneud ei farc."

I ddarllen mwy CLICIWCH YMA

Rhannu |